Llyfrau

RSS Icon
19 Ebrill 2016

Adfer enw da Margaret Wynne o Wydir mewn nofel newydd

Caiff Margaret Wynne o Wydir ei chofio fel ‘dynes flin’, ond yn ôl darllen ac ymchwil yr awdures Haf Llewelyn fe gafodd Margaret ei ‘chamddeall yn llwyr’.

Fe gaiff ei stori ei hail-ddychmygu a’i ysgrifennu o’r newydd mewn nofel newydd sydd yn cael ei chyhoeddi yr wythnos hon.

Lleolir Y Traeth gan Haf Llewelyn ym Meirionnydd yn ystod yr 17eg ganrif, gan olrhain bywydau rhai o deuluoedd bonedd y cyfnod.

Dilyna hanes Margaret Cave wedi iddi briodi’r uchelwr Sion Wynne o Wydir, pan nad oedd fawr hŷn na phlentyn.

Er i Margaret geisio’i pherswadio ei hun ei bod hi’n perthyn, mae’n dioddef dirmyg ei theulu yng nghyfraith, yn cael pyliau dwys o iselder ac yn hiraethu am ei merch fach, ac am ei gŵr sy’n treulio’i amser yn Llundain bell.

Pan ddaw Begw i weithio fel morwyn ati, mae perthynas agos yn tyfu rhyngddi a Margaret, a daw Begw i deimlo nad oes ganddi ddewis ond aros gyda’i meistres drwy’r cyfan.

"Hanes teyrngarwch a cyfeillgarwch at bobl sydd yma yn bennaf – yn enwedig teyrngarwch y forwyn, Begw tuag at ei meistres, Margaret," eglurodd Haf Llewelyn.

"Ddewisodd Begw ddim i fod yn dlawd ac yn yr un modd chafodd Margaret ddim y dewis i fod yn gyfoethog. Ond be sy’n bwysicach ydy’r dewisiadau mae’r ddwy yn eu gwneud yn ystod y nofel."

Roedd ailysgrifennu stori Margaret, fel ‘gwneud yn iawn am y sarhad gafodd hi yn ystod ei bywyd’.

"Roedd hi’n amlwg yn ddynes unig iawn ac wedi gorfod plygu i drefn yr oes.

"Am iddi fethu rhoi etifedd, fe gafodd ei difrïo a’i sarhau gan y teulu pwerus hyn," medd Haf.

"Mi wnes i gymryd ati yn syth. Wrth ddarllen mwy amdani mi ddes i deimlo yn agos ati. Roeddwn i eisiau’r gorau iddi. Felly dyma benderfynu ysgrifennu stori arall o’i chwmpas."

Mae’r traeth hefyd yn chwarae rhan ganolog yn y nofel.

"Mae nifer o gymeriadau’r nofel yn teimlo rhyw dynfa at y traeth. Mae’n ymgorfforiad ehangach o ymlyniad at rywle.

"Fel mae cymeriadau’r nofel yn adnabod y môr a’r traeth, dwi’n siŵr fod pob un ohonom yn teimlo rhyw dynfa at leoliadau cyfarwydd, a rhyw deimlad o berthyn."

Mae digwyddiadau Y Traeth yn digwydd yn yr un ardal â nofel flaenorol Haf, Mab y Cychwr, ac fe welir rhai o gymeriadau’r nofel honno yn ymddangos. Ond mae Haf am bwysleisio nad yw Y Traeth yn ddilyniant.

"Does dim angen darllen Mab y Cychwr er mwyn darllen hon," meddai hi.

"Efallai fod ailgyflwyno hen gymeriadau yn arwydd o fy ymlyniad innau tuag at y byd rwyf wedi ei greu!"

Magwyd Haf Llewelyn ar fferm fynyddig yn Ardudwy ond mae’n byw yn Llanuwchllyn ers bron i ddeng mlynedd ar hugain bellach.

Dyma ei thrydedd nofel i oedolion, yn dilyn Y Graig a Mab y Cychwr, ac mae wedi cyhoeddi nifer o nofelau a llyfrau i blant, gan gynnwys Diffodd y Sêr, nofel wedi ei hadrodd o safbwynt chwaer fach Hedd Wyn, y bardd, a enillodd iddi wobr Tir na n-Og yn 2014. Mae hefyd yn barddoni ac yn aelod o dîm Talwrn Penllyn.

"Does dim angen gwybod hanes y cyfnod na hanes teulu Wynne o Wydir i ddarllen y nofel," ychwanegodd Haf.

"Llen ydy’r cyfnod. Does fawr yn gwahaniaethu ddoe a heddiw yn yr ystyr y byddai’r cymeriadau yn gwneud yr un dewisiadau yn 1612 ag a fydden nhw heddiw.

"Stori sydd yma am gyfeillgarwch a natur ddynol. Ac mae’r themâu hynny yn rhai oesol."

Mae Y Traeth gan Haf Llewelyn (£8.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Bydd trafodaeth am Y Traeth a nofel newydd Sian Northey, Rhyd-y-Gro (Gwasg Gomer) yn Y Fedwen Lyfrau yn Galeri yng Nghaernarfon am 10 o’r gloch y boew, dydd Sadwrn y 23 o Ebrill.

Ar nos Fercher y 27ain o Ebrill am 7.30yh yng Ngwesty'r Eryrod yn Llanuwchllyn bydd lansiad arbennig ar y cyd wrth ddathlu cyhoeddi nofel Y Traeth a chyfrol arbennig Beryl H Griffiths, Mamwlad, gan Wasg Carreg Gwalch. Bydd trafodaeth yn ystod y noson gyda Haf a Beryl yn holi ei gilydd am eu cyfrolau newydd.  

Rhannu |