Llyfrau

RSS Icon
18 Ebrill 2016

Straeon gwin o Ddolgellau i Verona

Cafodd perthynas fusnes hir sefydlog rhwng gwneuthrwr gwin o’r Eidal a mewnforiwr gwin o Gymru ei selio gyda cyflwyno llyfr yn y ffair win enwog Vinitaly yn Verona yr wythnos hon.

Fe deithiodd Dylan Rowlands a dau aelod o staff, Emma Williams a Terri Jones, i’r Eidal ar ddydd Sul gan fynd gyda hwy copi o’r gyfrol newydd ‘Rarebit and Rioja – Recipes and Wine Tales from Wales’ i’w gyflwyno i Vincenzo Bossotti a’i ferch Cristina.

Mae gwinllan Bossotti yn ymddangos yn llyfr y mewnforior gwin o Gymru sydd yn trafod gwahanol fathau o win.

Mae penodau a ryseitiau’r llyfr wedi eu strwythro o amgylch y gwahanol wledydd sydd yn cynhyrchu gwin o’r sawl mae Dylan yn mewnforio ac fe adroddir straeon ei deithiau o amgylch Ewrop yn chwilio am win. Mae Vincenzo yn ymddangos – yn addas iawn, yn y bennod gyntaf.

Dechreuodd y stori gyda camau cyntaf Dylan i mewn i’r byd gwin wrth iddo fentro i Turin yn yr Eidal bymtheg mlynedd yn ôl er mwyn darganfod y gwinoedd cyntaf i’w fewnforio a mynychu yr union un ffair win – tipyn o gamp gan fod dros bum mil o gynhyrchwyr gwin ar y safle.

Yma fu cyfarfu a Vincenzo cyn ymweld y winllan yr oedd ef yn rhedeg gyda’i deulu yn Cisterna D’asti, mewn tref hardd ar ben bryn yn Piedmonte, yng ngogledd yr Eidal.

Creodd ansawdd arbennig gwinllan Bossotti argraff ar Dylan yn syth.

"Mae safon a gonestrwydd y gwneuthurwr gwin yn holl bwysig mewn partneriaeth fel hyn ac mae’n rhaid i chi ymddiried yn y person rydych chi’n masnachu gyda i fod yn gyson.

"Dyw’r teulu Bossotti erioed wedi fy ngadael i lawr dros y blynyddoedd ac rwy’n falch i werthu gwin y cynhyrchwyr hyn," meddai Dylan.

"Does fawr o amheuaeth bod angerdd y teulu yn cael eu adlewyrchu yn eu cynnyrch – o’r labeli hardd i’r gwin yn y botel. Hir oes i’r berthynas Eidaleg – Cymreig hyn!" meddai.

Mae siop gwin a caffi bar Gwin Dylanwad Wine wedi ei leoli ym Mhorth Marchnad yn Nolegllau.

Er 2003 mae Dylanwad wedi bod yn mewnforio gwinoded unigryw yn uniongyrchol o Sbaen, Ffrainc, yr Eidal ac Awstria. Mae rhain ar gael i’w yfed neu eu prynu yn Gwin Dylanwad Wine neu i’w dosbarthu drwy Brydain.

Mae Rarebit and Rioja: Recipes and wine tales from Wales gan Dylan and Llinos Rowlands (£14.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |