Llyfrau

RSS Icon
18 Ebrill 2016
Gan LYN EBENEZER

Trysor o gyfrol sy’n haeddu ennill Llyfr y Flwyddyn

WRTH i mi ysgrifennu hyn o lith, ar fwrdd y gegin o’m blaen mae cyfrol hynod iawn, sef teyrnged i ddyn hynod iawn. Yn wir, mae’n deyrnged i un y gellir ei ddisgrifio fel un o Gymry mwyaf ein hoes. Y dyn hwnnw oedd – na, y dyn hwnnw YW – Meredydd Evans.

Anodd cyfeirio ato yn y gorffennol gan fod ei waddol gyda ni o hyd. Ac fe fydd gyda ni am genedlaethau ddaw.

Teitl y gyfrol, yn syml yw ‘Merêd – Dyn ar Dân’. Ac fel y dywed y broliant, mae’r gyfrol, a olygwyd gan Eluned (merch Merêd a Phyllis) gyda chymorth Rocet Arwel Jones yn cynnwys cyfraniadau gan awduron sy’n amrywio o ran oedran o’u hugeiniau i’w nawdegau. Yn wir, cefais y fraint o gyfrannu ysgrif fy hun ar gariad Merêd at ei fro fabwysiedig.

Dyma drysor o gyfrol. Dyma, i mi, Lyfr y Flwyddyn. Yn wir, llyfr sawl blwyddyn. Prin fod unrhyw ffigwr yn hanes diweddar Cymru oedd mor amlochrog ei ddiddordebau, mor ffyrnig ei ddaliadau, mor weithgar hyd y diwedd, mor ddiffuant, mor ddyfalbarhaus. Mor annwyl hefyd. Ond unwaith y cydiai Merêd mewn achos, glynai wrtho fel gelen.

Wna’i ddim rhestru enwau’r holl gyfranwyr. Maen nhw’n rhy niferus. Ond mae eu pynciau’n amrywio, atgofion am droeon yr yrfa faith ac amrywiol mewn cryn dri dwsin o benodau heb sôn am deyrngedau barddol.  Mae’r cyfan yma, o’i eni yn Llanegryn i ben y daith yng Nghwmystwyth. Wiw i mi restru’r cyfan. Ar wahân i fod yn gatalogaidd, does yma ddim digon o le i wneud hynny. Yn wir, fe gymer saith tudalen yn y gyfrol i restru’r cerrig milltir ar hyd y daith.

Mae’r gyfrol hefyd yn gyforiog o luniau. A meddyliwch y rhychwant yma eto – Merêd gydag aelodau o Gymdeithas y Cwm a Merêd yng nghwmni’r actores Samantha Bond a gyda’r Archesgob Desmond Tutu. A Merêd wedi llosgi’r twrci Nadolig!

Yn y cyflwyniad cawn ddisgrifiad Twm Morys o’r flwyddyn 2015, y flwyddyn a wnaeth gipio Merêd ac amryw o Gymry eraill na fedrem fforddio eu colli. Disgrifiad Twm oedd, ‘Hen fleiddast o flwyddyn’. Eir ymlaen i ddweud nad cystadleuaeth pwy yw’r mwyaf a gollwyd yw hyn. ‘’Byddai Merêd yn  rhwygo’r arch o feddwl bod unrhyw un hyd yn oed yn meddwl y fath beth.’ Gwir iawn!

Rhestrir cryn bymtheg o feysydd a gweithgareddau y bu Merêd yn llafurio ynddynt. Pe rhestrid y gweithgareddau bach lleol hefyd byddai’n rhestr ddiddiwedd. Fy nhasg i fu olrhain rhai o’r cyfraniadau lleol hynny drwy atgofion pobol y fro. Bu’n noson i’w chofio yn y festri, sef calon gweithgareddau’r Cwm erbyn hyn. Ac os bu 2015 yn ‘fleiddast o flwyddyn’, mae 2016 yn bygwth hynny hefyd. Collwyd un o’r criw a ddaeth ynghyd y noson honno. Roedd Gwyn Morgan, neu Gwyn Pentre, yn gymydog a chyfaill mawr i Merêd. Yn wir, crisialai Gwyn y math o berson yr edmygai Merêd yn fwy na’r un, sef y gwerinwr diwylliedig. Ac mae awdur pennod gynta’r gyfrol hefyd newydd ein gadael sef y Doctor Gwyn Thomas.

Medraf gofio o hyd fy nghysylltiad cyntaf erioed â Merêd. Y flwyddyn oedd 1966 a’r lle oedd un o westyau Porthcawl adeg Eisteddfod Aberafan. Roedd hwn yn gyfnod pan fyddai pobol ifanc fel fi’n dueddol o enllibio criw’r BBC. Byddai gweld bathodyn yn cyhoeddi’r tair llythyren ar labed côt yn ddigon. Roedd criw o’r Bîb yn bresennol y noson honno a dechreuwyd ar yr enllibio. Un o’r prif dargedau oedd Merêd. Ond o wybod am ei egwyddorion, achubais ei gam yn gyhoeddus yn y bar. Diolchaf hyd heddiw i mi wneud. Wnaeth Merêd ddim erioed anghofio. Wn i ddim sawl tro y gwnaeth osod ei law’n ysgafn ar fy ysgwyd a sibrwd,
“Diolch i ti, yr hen Lyn.”

Ni fedraf gloi heb gyfeirio at un cyfraniad yn arbennig. Wel dau, mewn gwirionedd, gan yr un person. Cynhwysir teyrnged angladdol Rocet. Dyma lith eneidiol. Dim gweniaith. Dim sentiment. Dim ond y gwir. Dylid ei fframio. Ffolais hefyd ar y gerdd a enillodd i Rocet Gadair Eisteddfod Cwmystwyth, digwyddiad a atgyfodwyd drwy ymdrechion Merêd ar ôl bwlch hir. Mae’n gorffen fel hyn:

Bûm innau yn crwydro a chanu’n fy nhro
A chanu a chanu am gyfoeth fy mro,
Ond anwes fy mamwlad a’m galwodd ar ras
A dawnsiais y llwybr cyn iddo droi’n las.

Rhannu |