Llyfrau
Dychmygu dinas – O Gymru i Wcráin
Fe gyfarfu Cymru a Wcráin yn yr amgylchiadau mwyaf anhebygol pan gysylltodd Liliya Revenko, athrawes o Wcráin, gyda’r awdur Cymreig Colin Thomas.
"Gofynnodd yr ysgol i mi wneud rhywfaint o waith ymchwil ac fe benderfynais astudio hanes ein dinas, sydd wedi bod yn dioddef cymaint yn ddiweddar. Ond beth allwn ni ei drafod os oes eisoes cymaint o wybodaeth ar gael? Dechreuais chwilio am ffeithiau newydd oedd ddim wedi ei cyfieithu i’r Rwsieg," esboniodd Liliya.
"Wrthi’n chwilio ar hyd y we oeddem ni pan ddaethom ar draws fideo Colin Thomas yn sôn am ei waith yn creu ffilm am Hughsovka. Roedd diddordeb ganddom ni yn syth!"
Ar ôl derbyn gwybodaeth gan Colin ei hun ac ar ôl sylweddoli y byddai’n amhosibl derbyn copi o’i lyfr o ystyried sefyllfa bresennol Wcráin, fe gafodd Liliya ei rhoi mewn cysylltiad ag ef drwy Susan Edwards yn Archif Bro Morgannwg. Roedd adran helaeth ar Hughesovka / Stalino / Donetsk yn yr archifau.
"Pan gawsom ateb yn ôl gan Colin, roeddem ar ben ein digon! Rydym yn darllen ei lyfr ar hyn o bryd ac yn meddwl am ail ran ein gwaith ymchwil," meddai Liliya.
Hanse un dref yn Wcráin yw Dreaming a City gan Colin Thomas, microcosm o Rwsia. Roedd Hughesovka (Stalino a Donetsk yn hwyrach) yn dref mwyngloddio a dur a sefydlwyd yn y 1870au gan fentrwr Cymraeg, John Hughes, a saith deg o weithwyr o Gymru.
Dilyna'r llyfr hwn hanes y dref wrth iddi newid a symud oddiwrth ei dechreuad patriarchaidd, drwy chwyldroadau Rwsia, y cyfnodau Bolsiefigaidd a Stalinaidd, y feddiannaeth Natsiaidd a chwymp Comiwnyddiaeth a chodiad cenedlaetholdeb Wcráin y 1990au, i ol-annibyniaeth Wcráin.
Roedd anawsterau gyda chroesi’r ffin ac anfon parseli a phecynnau i Liliya yn Kharkov yn golygu fod rhaid iddi dderbyn copi digidol o’r llyfr.
"Mae’r sefyllfa yn Donetsk wedi gwella rhyw fymryn ond mae dynion milwrol yn parhau i gerdded y strydoedd a does dim cytundeb heddwch," meddai Liliya.
"Mae gwaith Colin yn bwysig iawn i’n hardal ni," meddai Liliya.
"Os nad ydym ni’n gwybod ein gorffennol fydd gennym ni ddim dyfodol.
"Yn y gorffennol mae gwybodaeth am darddiad a hanes Donetsk wedi ei guddio a’i leihau i efallai 2-3 linell mewn gwerslyfr ysgol.
"Does gan lawer o bobl ddim syniad ym mha ddinas oedden nhw."
"Hyd yn oed heddiw mae gennym ni lawer o waith i ddweud wrth bobl y gwirionedd am darddiad eu dinas.
"Fel athro, rwyf am baratoi profion yn seiliedig ar lyfr Colin gan geisio poblogeiddio ein hanes," meddai Liliya.
Mae'r llyfr yn gyfuniad arbennig o hanes cymdeithasol a gwleidyddol Rwsia a Chymru; newyddiaduriaeth teithio, ac yn deyrnged i'r hanesydd Cymraeg Gwyn Alf Williams, yn ogystal â bod yn gofiant personol o fywyd yn y byd teledu a hanes.
Defnyddia'r awdur y ddinas fel trosiad i archwilio'r enciliad o ddelfrydiaeth wleidyddol, a natur gobaith a dadrithiad, drwy brocio themau megis cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth, rhyngwladoliaeth a chenedlaetholdeb, a rhyddid ac ymelwad.
"Darllenais am yr hyn sydd wedi digwydd yn Donetsk gyda thristwch mawr," ychwanegodd Colin Thomas.
Mae Dreaming a City gan Colin Thomas (£9.95, Y Lolfa) ar gael nawr.
Llun: Liliya Revenko (chwith) a Polina Pavlova (dde)