Llyfrau
Rhyddhau cyfrol o chwedlau mwyaf adnabyddus Cymru
Mae cyfrol newydd a gyhoeddir yr wythnos hon yn dod a rhai o straeon a chwedlau fwyaf adnabyddus Cymru ynghyd.
Mae Deg Chwedl o Gymru gan Meinir Wyn Edwards yn cynnwys chwedlau o bob rhan o Gymru – ac o sawl cyfnod hanesyddol hefyd.
Cymysgedd o ffeithiau hanesyddol a ffuglen yw chwedl ac fe geir ystod eang o straeon o fewn y gyfrol megis hanes Branwen a Bendigeidfran a Breuddwyd Macsen o’r Mabinogi, a hanes un o frenhinoedd Gwynedd – Maelgwn Gwynedd.
Gwelir blethu ynghyd ffaith a ffuglen wrth adrodd hanes trist Rhys a Meinir a Cantre’r Gwaelod, dynion gwyllt Gwylliaid Cochion Mawddwy yn yr 16eg ganrif ac anturiaethau Twm Siôn Cati. Ceir darnau o hanes gwir hefyd gyda hanesion Merched Beca a Dic Penderyn yn yr 19eg ganrifcyn crwydro i fyd y tylwyth teg gyda stori Llyn y Fan Fach.
"Mae chwedlau yn rhan bwysig o'n diwylliant a'n hanes ni. Ac mae Cymru’n llawn chwedlau, o bob cwr o’r wlad, o stori Rhys a Meinir ym Mhen Llŷn, i Ferched Beca yn y gorllewin a hanes Dic Penderyn yn Ne Cymru. Maen nhw’n arwyr dewr ac yn gymeriadau o gig a gwaed," meddai’r awdures, Meinir Wyn Edwards.
"Dyma’r straeon gorau sydd ganddon ni – maen nhw’n anturus, yn waedlyd, yn drist, yn rhamantus ac yn gyffrous. Trwy ddarllen eich chwedlau rydyn ni’n dysgu am leoliadau a chymeriadau a hanes Cymru," ychwanegodd.
Bydd y gyfrol hon yn addas ar gyfer athrawon a rhieni i ddarllen storïau i blant dan 7 ac hefyd ar gyfer plant hyd at 11 oed sy’n medru darllen yn annibynnol. Mae'r gyfrol yn cynnwys lluniau lliw hyfryd gan yr artistiaid Cymreig, Gini Wade a Morgan Tomos.
Meddai Bethan Davies Atkinson: "Mae’r straeon yn cyfoethogi iaith, ac yn gadael i’r darllennydd ddefnyddio’i ddychymyg."
Ychwanegodd Siwan Wyn: "Mae’r storiau wedi eu hadrodd yn fyw ac yn llawn cyffro."
Daw’r awdur Meinir Wyn Edwards yn wreiddiol o Sir Benfro ond mae bellach yn byw yn Llandre ger Aberystwyth ac wedi cyhoeddi dros 30 o lyfrau i blant gan gynnwys cyfres Cyffro! a chwedlau Cymreig yn Famous Welsh Tales yn Saesneg.
Mae Deg Chwedl o Gymru (£6.99, Y Lolfa) ar gael nawr.