Llyfrau

RSS Icon
08 Ebrill 2016

Celwydd, twyll a thyndra - nofel newydd Tony Bianchi

Celwydd, twyll a thyndra – dyma nofel grefftus sydd yn llawn cyffro a dirgelwch ac sy’n dangos yr effeithiau gall bywydau pobl gael ar eraill.

Sol a Lara yw nofel ddiweddaraf yr awdur amryddawn, Tony Bianchi. Cawn hanes dau gymeriad sy’n byw eu bywydau ar wahân – Lara, sy’n nyrs yn yr ysbyty lleol ac sy’n byw gyda’i mam, a Sol, sydd yn cael ei erlid gan bobl ddrwg am ddwyn arian. Ond beth fydd yr effaith ar fywydau’r ddau pan fydd eu llwybrau’n croesi?

Cyfuniad o ddwy stori yw’r nofel hon. Enillodd fersiwn cynnar o’r bennod gyntaf, sef stori Lara, gystadleuaeth Stori Fer Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2013. Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer rhan Sol o’r stori gan ddarn o Lên Meicro ysgrifennodd Tony i gyd-fynd â llun gan yr arlunydd, Derek Bainton.

Llifa’r testun yn naturiol rhwng bywyd rhyfedd Lara, a hanes cudd Sol. Datblyga obsesiwn Lara dros ei chyn-gariad tra i gelwyddau Sol fynd a fe’n bellach i ffwrdd o realiti.

Brodor o North Shields yw Tony Bianchi ac wedi cyfnodau yn Llanbedr Pont Steffan, Shotton ac Aberystwyth, symudodd i Gaerdydd, lle mae’n byw o hyd.

Dyma awdur sydd wedi cyrraedd y brig mewn sawl cystadleuaeth. Cyrhaeddodd ei nofel Esgyrn Bach Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2007, enillodd Pryfeta Wobr Goffa Daniel Owen 2007 a chyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2008, ac enillodd Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands y Fedal Ryddiaith yn 2015.

Mae Sol a Lara ar gael yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol wrth y cyhoeddwyr, Gwasg Gomer www.gomer.co.uk
Manylion Llyfryddol
Sol a Lara
Tony Bianchi
ISBN 9781848518018
Gwasg Gomer
£8.99, Clawr Meddal, 296 tudalen

Rhannu |