Llyfrau

RSS Icon
06 Ebrill 2016

Llwyd Owen: Cyhoeddi degfed nofel mewn 10 mlynedd

Yr wythnos hon mae un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru yn rhyddhau ei ddegfed nofel mewn deg mlynedd.

Mae Taffia gan yr awdur adnabyddus Llwyd Owen yn nofel anturus sydd yn trafod twyll, trais a dial, perthnasau, edifar a methiant.

Mewn gwlad debyg iawn i’r Gymru gyfoes, mae’r ditectif Danny Finch yn colli ei swydd ar ôl cael ei gyhuddo o dwyll.

Rhaid iddo dderbyn gwaith fel swyddog diogelwch i’r dihiryn Pete Gibson, er mwyn y wraig a’r mab y mae’n meddwl y byd ohonynt.

Ond, ar ôl gwrthod cyfle i fod yn rhan o’r ‘busnes’ anghyfreithlon, mae ei fos yn cynllwynio yn ei erbyn.

Bydd Danny Finch yn adnabyddus i rai o ddarllennwyr ffyddlon Llwyd Owen fel cymeriad ymylol yn y nofelau Mr Blaidd a Heulfan.

Meddai Dewi Prysor: "Ar ôl llechu yng nghysgodion y nofelau uchod, mae Danny Finch yn camu i ganol cyffro Taffia, er nad yw hi’n fêl i gyd iddo chwaith! Stori dylwyth teg wedi’i chuddliwio fel nofel anturus yw Taffia, ac yn debyg i bob stori o’r fath, rhaid i’r arwr ddioddef cryn dipyn ar hyd y daith.

"Dyma nofel garlamus wedi’i seilio yn y mwrllwch rhwng dialedd a maddeuant, lle mae casineb a chariad, trais a theyrngarwch, yn rhan o’r un brethyn."

Daw Llwyd Owen o Gaerdydd yn wreiddiol ac mae’n dal i fyw yno hyd heddiw. Taffia yw ei ddegfed nofel ac ei wythfed nofel yn y Gymraeg. Caiff ei chyhoeddi union ddegawd i bryd gyhoeddwyd ei nofel gyntaf.

"Doedd dim cynllun nac uchelgais benodol gennyf pan gychwynais gyhoeddi nofelau yn 2006, ond rhaid cyfaddef fy mod i’n reit falch o’r hyn rydw i wedi ei gyflawni. Beth bynnag sy’n digwydd yn y dyfodol, gallaf edrych yn ôl â balchder ar y ddegawd ddiwethaf." meddai Llwyd.

Mae Llwyd Owen yn un o awduron mwyaf poblogaidd y byd llenyddol Cymreig ac mae ganddo ddilyniant ffyddlon iawn. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007 am Ffydd Gobaith Cariad ac mae ei waith yn gyfoes ac yn apelio i ddarllenwyr o bob oed.

Caiff Taffia ei lansio yn swyddogol yn Yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd ar brynhawn Sadwrn yr 16 o Ebrill am 3 o’r gloch – gyda cherddoriaeth byw gan Colorama.

Mae Taffia gan Llwyd Owen (£8.99, Y Lolfa) ar gael nawr. 

Rhannu |