Llyfrau

RSS Icon
05 Ebrill 2016

Nofel arall gan Sian Northey - Stori yw’r gorffennol a’i chartref yw’r cof…

Yn dilyn ymateb wych i’w nofel gyntaf, Yn y Tŷ Hwn, mae sawl un wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am nofel arall gan Sian Northey. Mae Gwasg Gomer yn falch iawn o gael cyhoeddi felly bod Rhyd y Gro bellach ar gael yn eich siop lyfrau leol.  

Nofel gynnil yw hi am gwlwm perthyn a’r ffordd yr ydym yn dehongli ac yn deall ein perthynas ag eraill.

Dyma hanes Efa a Steffan, merch a thad – dieithriaid i bob pwrpas – sy’n dod i adnabod ei gilydd yn ystod cyfnod dwys ym mywydau’r ddau.

Ond mae cymeriadau eraill yn llechu ar y cyrion, rhai arwyddocaol o ieuenctid Steffan: Carys (mam Efa), Lora a Rhydian Gwyn, y mwyaf enigmatig ohonynt i gyd. A beth tybed yw pwysigrwydd yr hyn ddigwyddodd yn Rhyd y Gro, y tŷ a fu’n gartref i’r pedwar ffrind?

Yn y nofel deimladwy, synhwyrus hon mae Sian Northey yn edrych ar gariad a cholled ac ar y modd yr ydym yn gwau edafedd y gorffennol ynghyd i greu ein storïau bratiog ein hunain. Mae’r gorffennol, dan fantell Rhyd y Gro, yn gymeriad yn ei hun a’r hyn ddigwyddodd yno’n para i daflu ei gysgod ar fywydau’r pedwar ffrind.

Meddai Sian Northey: “Efallai nad yr hyn ddigwyddodd sy’n bwysig ond yr hyn y mae pobl, yn arbennig Steffan, yn ei gredu ddigwyddodd. Stori ’da ni’n ei hadrodd ydi gorffennol pob un ohonom.”

Yn feistres ar ysgrifennu cynnil, llwydda Sian i gyfleu cymaint mwy nag y gall gair ar dudalen.

Dywed Meg Elis am y nofel: “Awgrymiadau a chyffyrddiadau a gawn, fel sy’n nodweddiadol o Sian Northey: y bluen yn wastad, byth yr ordd.”

Cynhelir digwyddiad i lansio Rhyd y Gro yn rhan o ŵyl Bedwen Lyfrau eleni. Ymunwch â ni am 2.15yp ddydd Sadwrn 23 Ebrill yn Galeri, Caernarfon i ddathlu yng nghwmni Sian Northey, Haf Llewelyn a Menna Baines

Rhannu |