Llyfrau

RSS Icon
31 Mawrth 2016

Môn, Cymru a’r Bêl - Stori Osian Roberts

Nos Wener yma, ym Modffordd, bydd Y Lolfa yn lansio hunangofiant is-reolwr tîm pêl-droed Cymru Osian Roberts.

Mae’r gyfrol yn datgelu sut y llwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016, gan ŵr a wnaeth gymaint o’r gwaith tu ôl i’r llenni – Cymro balch nad yw wedi anghofio’i wreiddiau ac sydd wedi bod yn allweddol i roi Cymru ar fap pêl-droed y byd.

Yn 2011 cafodd ei benodi i weithio gyda charfan bêl-droed Cymru o dan Gary Speed.

Yn y gyfrol mae Osian yn trafod yn onest ei falchder o gael gweithio gyda Gary, y golled enfawr pan fu farw a sut effeithiodd y drychineb honno arno ef a’r garfan.

Erbyn hyn mae’n is-reolwr i Chris Coleman ac mae Osian yn datgelu cyfrinachau tu ôl i lwyddiant y tîm cenedlaethol.

Ceir blas o’r gwaith caled, y dulliau hyfforddi proffesiynol a’r tactegau craff a deallus sydd wedi arwain at drawsnewid ffawd Cymru wrth iddynt ddringo i fyny rhestr detholion y byd ac ennill ei lle ym Mhencampwriaeth Ewrop.

Ceir hefyd gipolwg tu ôl i’r llenni ar y gwersylloedd ymarfer a sawl hanesyn am y chwaraewyr.

Yn ogystal â bod yn hanfodol i bawb fydd yn dilyn Cymru yn yr Ewros mae’r gyfrol yn cyfleu’r aberth a’r weledigaeth sy’n gyrru person i gyrraedd y brig yn ei faes.

Ceir hefyd ddarlun o fagwraeth Osian ym Modffordd, ei yrfa fel chwaraewr yn ogystal â’i gyfnodau yn America lle fwriodd ei brentisiaeth fel hyfforddwr.

Cyhoeddir Môn, Cymru a’r Bêl, Hunangofiant Osian Roberts (Y Lolfa, £9.99) ar nos Wener y cyntaf o Ebrill.

 

Rhannu |