Llyfrau

RSS Icon
31 Mawrth 2016

Geiriadur Cymraeg Gomer - Fyddwch chi byth yn brin o eiriau eto!

Faint ohonon ni sy’n cael trafferth dod o hyd i’r union air iawn?

Wel, na phoener o hyn ymlaen, oherwydd y mae Geiriadur Cymraeg Gomer gan y tad a’r mab, D. Geraint Lewis a Nudd Lewis, yn dod i’n hachub ni!

Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o eiriau o rai newydd sbon fel ‘hunlun’ (selfie), ‘blogiwr’ (blogger), ‘liposugnedd’ (liposuction) a ‘cwsmereiddio’ (customize) i hen eiriau fel ‘trontol’ (am ddolen cwpan) a ‘cunnog’ (hen air am fwced pren i gario llaeth).

Hoff air staff  Gomer yw ‘teisen ffenestr’ am deisen Battenberg ac oeddech chi’n gwybod mai ‘siop ymdopi’ yw DIY shop?

Y geiriadur hwn yw’r union beth sydd ei angen arnoch ar gyfer byw yng Nghymru’r 21ain ganrif.

Dyma’r gyfrol fwyaf erioed i Wasg Gomer ei gwneud yn ei hanes hir (124 o flynyddoedd hyd yma), tipyn o gamp.

Meddai Jonathan Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer: “Rydym yn hynod falch o gyhoeddi’r geiriadur newydd cyfoes hwn sydd dros 1,300 o dudalennau.

"Cyflawnodd Geraint Lewis, a’i fab, Nudd, waith arwrol.

"Bydd hon yn gyfrol werthfawr i bawb sy’n defnyddio neu’n dysgu’r Gymraeg am flynyddoedd lawer ac yn garreg filltir anhepgor i’r iaith."

Bu’r geiriadur arbennig hwn yn y broses o gael ei greu am yn agos i 20 mlynedd pan y gofynnodd Mr John Lewis i Geraint Lewis weithio ar greu geriadur Cymraeg newydd.

Ers hynny, mae’r broses o gasglu geiriau ynghyd wedi bod yn un hir a hynod ddiddorol.

Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a CBAC wedi helpu i ariannu’r cynllun ac wedi bod yn rhan o’r broses gasglu a mireinio geiriau ac ystyron. Defnyddiwyd nifer helaeth o arbenigwyr pwnc a thimau o ddarllenwyr allanol a phrawfddarllewnyr i gael y geiriadur i fwcwl.

A dyma ni!

Y mae Geiriadur Cymraeg Gomer yn cynnwys dros 43,000 o ddiffiniadau a miloedd ar filoedd o eiriau.

Fyddwch chi byth yn brin o eiriau eto!

Lansiwyd Geiriadur Cymraeg Gomer gan D. Geraint Lewis a Nudd Lewis nos Iau, 24 Mawrth yn argraffdy Gwasg Gomer, Llandysul ac mae’r gyfrol bellach ar werth yn eich siop lyfrau leol am £35 neu oddi wrth wefan Gomer www.gomer.co.uk

Manylion llyfryddol
Geiriadur Cymraeg Gomer gan D. Geraint Lewis a Nudd Lewis
£35, Gwasg Gomer, clawr caled, 1,344 tudalen

Rhannu |