Llyfrau

RSS Icon
29 Mawrth 2016

Ymgyrchydd Tryweryn yn datgelu’r cyfan am yr ymgyrch fomio, bywyd ar ffo a’r MI5

Nod Owain Williams wrth blannu ffrwydriad ar argae Tryweryn yn 1963 oedd deffro’r genedl. Methodd ei weithred ef a dau arall, i roi terfyn ar y gwaith, ond fe gafodd gefnogaeth gan bobl gyffredin oedd yn gweld yn glir yr anghyfiawnder i Gymru ac i bobl Capel Celyn.

Yn ei hunangofiant dadlennol, mae Owain yn datgelu’r cyfan am ei ran yn y bomio, bywyd ar ffo, ymgyrchoedd bomio yn ystod yr 1960au a bywyd yn y carchar.

Medd Owain, "Roeddwn yn gwybod y byddai’n golygu cymryd camau eithafol i greu’r adwaith yr oedd ei angen.

"Roedd angen ffrwydrad byddai’n atal adeiladu’r argae ac o bosibl achub y cwm oedd dan fygythiad.

"Roeddwn yn gobeithio y byddai’n ysgwyd y genedl ac yn tarfu ar ei sefyllfa bresennol o barchusrwydd.

"Roeddwn yn gobeithio fwy na dim, fod bynnag, y byddai’n deffro pobl gyffredin."

Yn ei lyfr, Tryweryn: A Nation Awakes mae Owain yn disgrifio ei fywyd rhyfeddol wrth iddo fynd ar ffo.

Cafodd ei ddilyn gan swyddogion y gwasanaethau arbennig, fe aeth ar ffo i’r Iwerddon, ac fe gafodd loches yno gan aelodau o’r IRA, cyn dychwelyd i Gymru drwy Lerpwl gyda chymorth CID o Gaer oedd yn credu ei gelwydd ei fod yn fyfyriwr o Wyddel oedd yn crwydro.

Cafodd ei arestio dan amheuaeth o fod yn arweinydd ymgyrch fomio yn Awst 1968 gan aelodau o’r gangen arbennig.

Ers hynny, mae Owain Williams wedi gwneud y daith o wleidyddiaeth radical i wleidyddiaeth fwy poblogaidd gan droi at y llwybr democrataidd, megis Gerry Adams a Martin McGuinness.

Daeth yn gadeirydd ar Blaid Annibynnol Cymru yn ogystal ag yn aelod o’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar adegau gwahanol.

Bellach, fe yw arweinydd plaid wleidyddol Llais Gwynedd ac mae’n gynghorydd yn cynrychioli ward Clynnog Fawr ar Gyngor Gwynedd.

Caiff Tryweryn: A Nation Awakes – The Story of a Welsh Freedom Fighter (£9.99, Y Lolfa) gan Owain Williams ei lansio ar yr 2il o Ebrill am 12 o’r gloch yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. 

Llun: Phil ap Siarl, Owain Williams, Gethin ap Gruffydd a Twm Twm 

Rhannu |