Llyfrau
Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn
DWY nofel ac un cofiant sydd yn ymgiprys am wobr Llyfr y Flwyddyn eleni, sef Caersaint gan Angharad Price; Lladd Duw gan Dewi Prysor; a Bydoedd, Ned Thomas. Mae’r tair cyfrol, yn anarferol iawn, yn dod o’r un wasg, Y Lolfa.
Nos Iau ddiwethaf (19 Mai), cyhoeddwyd enwau’r tair cyfrol Gymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer am wobr gyntaf o £10,000.
Fe ddaeth y cyhoeddiad gan Lenyddiaeth Cymru yn ystod dau ddigwyddiad a gynhaliwyd yr un pryd – y naill yn Galeri, Caernarfon a’r llall yn Bar Espresso, Caerdydd. Beirniaid y gystadleuaeth eleni ydi Simon Brooks, Gerwyn Williams a Kate Crockett.
“Dyma dair cyfrol bwysig gan awduron hyderus, rhai sy’n medru sgrifennu er cynnal ein diddordeb, sy’n gallu sicrhau pleser llenyddol, ac sydd drwy gyfrwng eu gweithiau yn ymdrin yn greadigol ac yn fyw â’r Gymru sydd ohoni heddiw,” meddai Gerwyn Williams, wrth wneud y cyhoeddiad yng Nghaernarfon.
“Mae hi’n Rhestr Fer yr ydym, fel beirniaid, yn unfryd unfarn ynghylch ei chynnwys.”
Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Unwaith eto mae gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi dewis y gorau o Gymru. Chwech sydd yn y ras a phob un werth ei darllen. Dechreuwch nawr.”
Ar restr fer y wobr Saesneg eleni y mae cyfrol o farddoniaeth What the Water Gave Me Pascale Petit; nofel Terminal Worls gan Alastair Reynolds, a chyfrol daith Cloud Road gan John Harrison.
Bydd enwau enillwyr y ddwy wobr, Cymraeg a Saesneg, yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo nos Iau, 7 Gorffennaf, yn Cineworld, Caerdydd. Bydd y ddau enillydd yn derbyn £10,000 yr un, a bydd £1,000 yr un i’r pedwar arall a gyrhaeddodd y rhestr fer.
Eleni bydd y seremoni ar ei newydd wedd mewn steil oscars carped coch. Gydag adloniant gan Bois yr Ysgol Gerdd a’r DJs The Vinyl Vendettas mi fydd hon yn noson i’w chofio.
? Mi fydd nifer cyfyngedig o docynnau ar gael i’r cyhoedd – cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru i archebu eich tocyn: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org