Llyfrau
Pencampwraig y dweud cynnil
Ar ôl hen ennill ei phlwy fel awdures llên meicro, mae Sian Northey bellach wedi troi ei llaw at ysgrifennu ei nofel gyntaf i oedolion.
Lansiwyd ei nofel Yn y Tŷ Hwn, yn y Ring yn Llanfrothen yr wythnos ddiwethaf, ac fe’i dewiswyd yn Nofel y Mis gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer mis Mai.
Y prif gymeriad ydi Anna, mae’n ei 60au cynnar, ac ar ddechrau’r nofel mae newydd ddod adre o’r ysbyty ar ôl torri’i choes.
Wrth i ni dreulio amser yn ei chwmni yn Nant yr Aur fe ddaw’n amlwg fod y tŷ wedi’i chaethiwo ers degawdau. Erbyn iddi gryfhau ddigon i allu cerdded heb ffyn baglau mae ei gorffennol wedi newid yn llwyr…
Mae Yn y Tŷ Hwn yn nofel delynegol a synhwyrus am gymhlethdod emosiynol cwlwm perthyn.
“Pencampwraig y dweud cynnil yw Sian Northey, y math o ddweud sy’n cyfleu cymaint mwy na’r geiriau ar y tudalen,” meddai Elinor Wyn Reynolds o wasg Gomer.
“Dyma awdur sy’n dilyn yr egwyddor werdd i’r llythyren drwy beidio ag afradloni geiriau,”
Yn ôl John Rowlands mae’r nofel hon wedi “fy nghyfareddu” a chytuna’r ddarlledwraig Catrin Beard ei bod yn “nofel fendigedig”.
Mae Sian Northey yn fam ac yn nain ifanc o ardal Blaenau Ffestiniog yn wreiddiol, er ei bod yn byw erbyn hyn ym Mhenrhyndeudraeth.
Ei theulu sy’n cadw siop lyfrau’r Hen Bost ym Mlaenau Ffestiniog.
Bu Sian Northey yn gweithio yn hyrwyddo llenyddiaeth yn y gymuned am flynyddoedd ac yna yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Tŷ Newydd, y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, cyn rhoi gorau i hynny i fynd i weithio ar ei liwt ei hun.
Enillodd gadeiriau Gŵyl fawr Aberteifi ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid a choron Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan.
Mae’n aelod o dîm Talwrn radio ‘Y Tywysogion’.
Yn y Tŷ Hwn yw ei nofel gyntaf i oedolion. Cyhoeddodd nofel newydd i blant, Maestro yng nghyfres Swigod gyda Gwasg Gomer hefyd yn ddiweddar.
Yn ogystal hi yw awdur Chwaer Fawr Blodeuwedd, Ar y Daith a Pwysig!, a golygydd Cerddi Fan Hyn: Meirionnydd a Corachod Digartref sy’n gyfrol o lên meicro.
? Mae Yn y Tŷ Hwn bellach ar werth yn eich siop lyfrau am £6.99 neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer, www.gomer.co.uk