Llyfrau
‘Wenglish’ – Llyfr yn trafod rhan o ddiwylliant Cymreig sydd wedi ei hesgeuluso
Bydd fersiwn diweddaraf y cyfeirlyfr ar Wenglish, iaith y Cymoedd, a gyhoeddir eto yr wythnos hon yn trafod ‘rhan o ddiwylliant Cymreig sydd wedi ei hesgeuluso’.
Mae Wenglish: The Dialect of the South Wales Valleys yn cynnwys esboniadau o eiriau ac ymadroddion fel “cwtch” , “butt”, “jiw,” “shwmae butt” a “come by ere”.
Mae’r gyfrol, sydd yn cael ei ail ryddhau gan Y Lolfa, ar ffurf geiriadur, yn cynnwys geirfa yn nhrefn yr wyddor, enghreifftiau o ddeialog, gramadeg, ymarferion yn ogystal â chyflwyniad i gyd-destun cymdeithasol a daearyddol iaith y cymoedd.
Bydd y gyfrol yn ddefnyddiol i bobl y cymoedd sydd eisiau dod i wybod mwy am Wenglish yn ogystal ag i bobl sydd am ddysgu neu ddynwared y dafodiaith.
Rhoddir hefyd gefndir datblygiad y dafodiaith, a’r rhan a chwareodd pobl a’r tirwedd yn hyn o beth.
Rhoddodd y beirniad llenyddol Meic Stephens ganmoliaeth i’r gyfrol gan ddweud ei bod yn ‘Llyfr hynod amserol a defnyddiol bydd, gobeithiaf, yn rhoi rhyw faint o hyder a balchder yn ôl i bobl y Cymoedd.’
Ychwanegodd Liz Jones o gylchgrawn Planet: "Dyma waith a chyfraniad pwysig ar ran o ddiwylilant Cymreig sydd wedi cael ei esgeluso."
Mae’r awdur, Robert Lewis, yn arbenigwr ar ieithoedd ac yn siarad deuddeg o ieithoedd ei hun gan gynnwys Afrikaans, Llydaweg ac Urdu.
Meddai: "Ces fy ngeni a’ magi yng Nghwm Tawe gan gyfarwyddo yn ifanc ag elfennau gorllewinol Wenglish a’r Wenhwyseg, tafodiaith Cymraeg y de-ddwyrain.
"Mae’r gyfrol yma wedi bod yn gyfle i gyfuno fy nghefndir gyda fy niddordeb mewn ieithoedd a sut mae pobl yn siarad," ychwanegodd.
Datblygodd diddordeb Robert mewn tafodieithoedd wrth astudio ieithoedd modern a chanoloesol yng Nghaergrawnt.
Mae Wenglish – The Dialect of the South Wales Valleys ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).