Llyfrau

RSS Icon
14 Mawrth 2016

Duw yw'r Broblem - llyfr gan ddau Gristion sydd yr un mor rhwystredig ynglŷn â sefyllfa crefydd yng Nghymru heddiw

MAE hon yn gyfrol anghyffredin. Cyfrol gan ddau awdur gwahanol iawn o ran arddull a phrosesau. Ond dau Gristion sydd yr un mor rhwystredig ynglŷn â sefyllfa crefydd yng Nghymru heddiw, ac sydd, er gwaethaf y gwahaniaeth yn digwydd dod i’r un casgliad: mai Duw yw’r broblem.

Mae’r ddau awdur yn dod at y pwnc yn eu ffyrdd eu hunain. Cynog Dafis yn ddadansoddiadol yn seiliedig ar brofiad ac ar ymchwil ac yn tynnu ar ddarllen eang iawn, ac Aled Jones Williams yn cynnig yr ymateb llenyddol yr ydym wedi dod yn gyfarwydd ag o erbyn hyn. 

I raddau mae’r ymateb llenyddol yn brawf o ddadl y naill a’r llall mai i fyd ac iaith ddilys y dychymyg y mae Duw yn perthyn ac nid i fynd yr un mor ddilys y rhesymeg wyddonol. Perthyn i’r mythos ac nid i’r logos mae crefydd y milenia.

Mae’r gyfrol yn ychwanegiad gwerthfawr yn Gymraeg at drafodaeth fyd eang sy’n ceisio ymateb i lythrenoldeb a ffwndamentaliaeth crefydd efengylaidd, asgell dde.

“Llyfr amserol a rhagorol,”meddai Gareth Wyn Jones. “Ffrwyth taith ddeallusol, dymhestlog o dro i dro, yr awduron. Llyfr i’n goleuo a’n hysbrydoli; i bontio ac i ail-gyfeirio ein hetifeddiaeth grefyddol gyfoethog. Darllenwch. Myfyriwch. Llawenhewch.”

Ychwanegodd Catrin Williams: “Pwy neu beth yw ‘Duw’? Sut mae trafod Duw? A yw’n bosibl disgrifio Duw? Dyma’r cwestiynau mawr - a rhyfeddol o astrus – sydd yn hoelio sylw Cynog Dafis ac Aled Jones Williams yn y gyfrol newydd a phwysig hon.

“Mewn cyfnod lle gwelir llawer o begynau arwynebol rhwng anffyddiaeth a ffwndamentaliaeth, dyma gasgliad o ysgrifau a myfyrdodau cyfoethog sydd yn cynnig persbectif newydd a mentrus ar gwestiwn bodolaeth Duw a dyfodol crefydd.

“Tra bod y naill awdur yn ffafrio arfer rheswm a’r llall am fyfyrio yng nghwmni’r dychymyg, tebyg iawn yw eu casgliadau: nid ffeithiau sicr ond symbolau aml-lefelog yw’r cymdeithion gorau wrth geisio creu ystyr a chwilio am y ‘gwirionedd,’”

* Duw yw’r Broblem, Aled Jones Williams a Cynog Dafis, Gwasg Carreg Gwalch, £8 (clawr meddal)

Rhannu |