Llyfrau

RSS Icon
14 Mawrth 2016

Cyfrol newydd gan Aled Lewis Evans - Cerddi sy’n cysylltu pob un ohonom

AR fin ymddangos o’r wasg mae’r gyfrol ddiweddaraf o gerddi gan Aled Lewis Evans, y bardd o Wrecsam.

Mae’r casgliad, sy’n cynnwys dros 60 o gerddi newydd, yn myfyrio ar y llinynnau sy’n cysylltu pob un ohonom – llinynnau teulu, bro, iaith a ffydd – a’r sylweddoliad bod y llinynnau hynny, er yn hanfodol, yn hynod fregus weithiau.

Deuoliaeth arall sy’n dod i’r amlwg wrth ddarllen y cerddi yw bod y llinynnau sy’n ein cynnal hefyd, o bryd i’w gilydd, yn ein carcharu.

Meddai Aled: “Dwi’n gobeithio y bydd pobl yn closio at y cerddi newydd hyn, ac yn medru uniaethu efo’r profiadau bob dydd yn rhwydd.

“Gobeithio hefyd y byddant yn cysuro, yn dyrchafu ac yn cofleidio’r darllenydd.”

Dyma gyfrol onest am glymau perthyn o bob math.

•  Llinynnau – Aled Lewis Evans, Cyhoeddiadau Barddas, £8.95. Bydd Llinynnau yn cael ei lansio ar ddydd Sadwrn, 23 Ebrill, yng Ngŵyl Bedwen Lyfrau, Galeri Caernarfon, ac ar nos Iau 12 Mai, Carnifal Geiriau Wrecsam, Llyfrgell Wrecsam

Rhannu |