Llyfrau

RSS Icon
08 Mawrth 2016

Maer’r ddraig yn rhuo unwaith eto

WEDi ei ganmol gan reolwr tîm pêl-droed Cymru Chris Coleman fel ‘cyfraniad ardderchog i lenyddiaeth ar bêl-droed Cymru’, mae The Dragon Roars Again yn adrodd hanes un o lwyddiannau mwyaf Cymru yn y byd chwaraeon sef hanes taith arbennig y tîm pêl-droed i gyraedd pencampwriaeth Ewro 2016.

Wedi ei hysgrifennu gan y newyddiadurwr Jamie Thomas, fe gafodd y gyfrol ei chanmol gan Chris Coleman a ddywedodd ei fod yn ‘gyfraniad ardderchog.’

“Rwyf wedi siarad â Jamie ar sawl achlysur yn ystod yr ymgyrch ac mae ei gefnogaeth a’i frwdfrydedd tuag at bêl-droed Cymru yn amlwg,” meddai Coleman.

Dilynir taith o 58 mlynedd ers y tro olaf gafodd y tîm lwyddiant hyd at eu llwyddiant diweddaraf. Mae sawl ffigwr amlwg o fewn byd pêl-droed Cymru wedi canmol y llyfr sydd yn adrodd hanes llwyddiant arbennig Cymru fel cyfrol ‘gynhwysfawr, llawn angerdd gyda ymdriniaeth ddofn ac ymchwil manwl’.

Cafodd Chris Coleman, ei staff hyfforddi, mwyafrif o’r tîm ei hun, a nifer eraill oedd yn rhan o lwyddiant hanesyddol Cymru, eu cyfweld ar gyfer y llyfr sydd yn dogfennu dychweliad Cymru i uchelfannau pêl-droed y byd.

Meddai Jamie Thomas, sydd yn fyfyriwr 22 mlwydd oed o Gaergybi, bod ysgrifennu’r llyfr wedi bod fel breuddwyd.

Meddai: “Roeddwn i wastad wedi bod yn awyddus i ysgrifennu llyfr am lwyddiannau mwyaf tîm Cymru a bûm yn ffodus iawn fod eu llwyddiant mwyaf wedi digwydd wrth i mi ysgrifennu’r llyfr.

“Mae’r cyhoeddwyr wedi dangos cymaint o ffydd ynof i ac mae pawb rwyf wedi eu cyfweld – o’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr, y cyn-chwaraewyr a’r sylwebwyr, wedi bod yn wych. Mae fel gwireddu breuddwyd!”

O fewn y tudalennau mae mewnwelediadau unigryw i rai o’r ffigyrau amlycaf ym mhêl-droed Cymru, gan gynnwys cyfweliad arbennig gyda Chris Coleman.

Roedd cael cwrdd a siarad â cynifer o’i arwyr yn anrhydedd i’r awdur.
Eglurodd: “Mae gallu dweud fy mod i wedi siarad â rhan fwyaf o garfan a hyfforddwyr Cymru, yn ogystal â rhai o’r cymeriadau mwyaf chwedlonol o’r gorffennol, yn anhygoel! Mae eu cael hwythau wedyn yn cymeradwyo a chefnogi’r llyfr yn brofiad hynod o swreal!”

Mae Osian Roberts, Raymond Verheijen, Wayne Hennessey a Neil Taylor ymhlith y nifer a gafodd eu cyfweld ar gyfer y llyfr, gyda dros 80 o gyfranwyr yn cyfrannu tuag at y darn gorffenedig.

Roedd gan gohebydd pêl-droed Cymru UEFA, Mark Pitman ganmoliaeth i’r gyfrol gan ddweud ei bod yn: “Adrodd llwyddiant i ailddiffinio pêl-droed Cymru gan y bobl wnaeth y freuddwyd yn wir. Dyma hanes cynhwysfawr ac angerddol o beth wnaeth cymhwyso i Ewro 2016 yn bosibl.”

Trafodir hefyd etifeddiaeth Gary Speed fel chwaraewr a rheolwr Cymru.

Adroddir hanes gyrfa Speed gan y rheiny oedd agosaf ato, a cheir sgyrsiau gyda’i Dad Roger Speed, oedd hefyd yn gefnogol i’r llyfr, yn ogystal â nifer o gyfeillion agosaf Gary ym myd pêl-droed.

Dadansoddir twf Cymru dan arweiniad Hughes, Toshack, Speed a Coleman yn ogystal ag ail ymweld a rhai hanesion eiconig Cymreig eraill. Mae’r ddraig yn rhuo unwaith eto ac mae’r llyfr hwn yn adrodd yr hanes.

Mae The Dragon Roars Again –Wales’s Journey to Euro 2016 gan Jamie Thomas (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |