Llyfrau
Taith igam ogam o gwmpas Ceredigion
Bydd Gwasg Gomer yn lansio Ceredigion: Wrth fy Nhraed / At my Feet yn y Llyfrgell Genedlaethol ar Ddiwrnod y Llyfr eleni.
Bydd y ffotograffydd talentog Iestyn Hughes yn cyflwyno’i gyfrol newydd yn y Drwm nos Iau, 3 Mawrth, am 7pm.
Mae’r lluniau trawiadol yn y gyfrol yn crwydro o’r arfordir i’r ucheldir, drwy bentrefi a threfi, drwy gynnydd a chyni. Gwelwn y cyfan drwy lygaid ‘Cardi dŵad’ sydd wedi syrthio mewn cariad â’i gartref mabwysiedig, a’r cariad hwnnw’n amlwg ym mhob ffrâm.
Meddai Iestyn Hughes, sy’n byw yn Bow Street ers blynyddoedd bellach: “Mae dyddiau cynnar rhywun (treuliais ddyddiau fy mebyd yn Sir Fôn) yn anhygoel o bwysig i greu teimlad o berthyn a chymuned, a doedd gen i ddim o’r fath ymlyniad emosiynol wrth Geredigion, ac felly y tyfodd y syniad o brosiect ffotograffig wedi’i seilio ar y sir.
"Fe fyddai’n fy nghael i allan o’r tŷ, o leiaf, ac ar y gorau yn gwneud imi deimlo’n llai o ddieithryn – yn llai o ‘Gardi dŵad’.
"Prynais offer gwell, gwisgo fy esgidiau cerdded, a chrwydro ymhellach oddi cartref, yma ac acw, a dechrau ymgyfarwyddo â’r dirwedd a’r bobl o ’nghwmpas.”
Yn ôl Iestyn, mae ceisio ‘dal’ naws y sir “fel ceisio creu portread o laslanc sy’n gwrthod eistedd yn llonydd.
"Y gorau y gallaf ei wneud yw cynnig argraff o’r ‘ddoe a’r heddiw’, gyda phlorod, heb
blorod, rhywfaint ohoni’n bresennol go iawn, rhywfaint yn deillio o’r dychymyg rhamantaidd, a rhywfaint ohoni wedi mynd am byth.
"Mae manylion a geiriau’n dueddol o lithro o’r cof, gan adael dim ond argraff. Gobeithio bod fy argraffiadau i’n ddiddorol ac yn gadael rhyw ôl.
"Siwrnai weledol ydyw – cyfuniad o luniau o’r gorffennol y sylwais arnynt yn ystod fy amser fel curadur, a chofnod diweddar, eiliad mewn amser wedi’i dal drwy fy lens i, ac un y gallai unrhyw un ei phrofi petai’n teithio o gwmpas y sir mewn ysbryd ymchwilgar a meddylgar.
“Mae llawer o’r llefydd mae gen i luniau ohonynt yn rhwydd i’w cyrraedd mewn cerbyd. Wrth i chi droi’r dalennau, fe fyddwch yn teithio, yn fras iawn, i gyfeiriad y dwyrain a’r mannau uchel, gweigion hynny sy’n pefrio o hen hanes, yna’n ‘dilyn y cloc’ o gwmpas y sir, gan bicio i mewn i’r canol o dro i dro, draw at aber afon Teifi, i fyny’r arfordir at afon Dyfi, ac wedyn i lawr am dro ar y prom yn Aberystwyth. Ambell waith fe fydd gen i un droed mewn sir gyfagos.”
Wrth baratoi’r gyfrol a sylwi ar gymunedau’n dod ynghyd mewn digwyddiadau di-ri ar draws y sir gwelodd Iestyn â’i lygaid a’i lens fod “Ceredigion yn lle bywiog, gyda dogn iach o bobl ag ewyllys da at yr etifeddiaeth, ac sy’n llawn angerdd dros ei dyfodol. Y bobl yn anad dim, ac yn fwy nag unrhyw gilcyn arbennig o’r ddaear, sydd wedi gadael yr ôl mwyaf wedi’r cyfan.”
Bydd Iestyn Hughes yn lansio’r gyfrol ddwyieithog Ceredigion: Wrth fy Nhraed / At my Feet yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol nos Iau, 3 Mawrth. Mae nifer cyfyngedig o seddi yn y Drwm, felly cysylltwch â Gwasg Gomer ymlaen llaw os ydych chi’n dymuno mynychu’r lansiad (elen@gomer.co.uk / 01559 363090).
Bydd Iestyn Hughes yn llofnodi copïau o’r gyfrol hefyd yn:
- ?Siop y Pethe, Aberystwyth, fore Sadwrn, 5 Mawrth, rhwng 11 ac 11.30 o’r gloch
- Siop Inc, Aberystwyth, brynhawn Sadwrn, 5 Mawrth, rhwng 2.30 a 3 o’r gloch.
Mae’r gyfrol bellach ar gael yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer am £14.99. Dyma gyfrol ddelfrydol i bob Cardi yn ogystal â phawb sy’n hoff o grwydro Ceredigion.
Manylion llyfryddol
Ceredigion: Wrth fy Nhraed / At my Feet
Iestyn Hughes
Gwasg Gomer
ISBN 9781848517516, £14.99, clawr meddal, 216 tudalen