Llyfrau
Datrys dirgelwch Dewi Sant
Datgelir y dirgelwch am y gwirionedd a’r mytholeg tu ôl i fywyd Dewi Sant wrth gyhoeddi’r gyfrol gynhwysfawr gyntaf am nawddsant Cymru yn y Gymraeg yr wythnos hon.
Mae pawb o bobl Cymru’n gwybod rhywbeth am Ddewi, nawddsant Cymru - ei fod yn byw ymhell yn ôl, mai Tyddewi oedd ei ganolfan, a bod y tir wedi codi dan ei draed yn Llanddewibrefi er mwyn i bawb gael ei glywed.
Ond, yn wahanol i seintiau eraill Cymru megis Cadog a Beuno, Padarn a Theilo, cafodd Dewi, er iddo farw mor bell yn ôl, fywyd hir hyd heddiw.
Ond pwy oedd y Dewi Sant go iawn?
Yn ei lyfr newydd Ar Drywydd Dewi Sant, mae’r hanesydd Gerald Morgan yn olrhain hanes bywyd nawddsant Cymru, gan edrych ar sut y mae’r chwedlau a’r traddodiadau sydd ynghlwm â’r ffigur amlochrog hwn wedi dod i fodolaeth ac yn dangos fel yr aeth Dewi o nerth i nerth fel ffigur yn hanes Cymru.
"Galwai milwyr o Gymry am ei gymorth a’i arweiniad ysbrydol wrth wrthsefyll y Sacsoniaid, wrth ymosod ar Iwerddon ac wrth fynd gyda Harri Tudor i Bosworth yn 1485." eglurodd Gerald Morgan.
"Pan ddaeth y Diwygiad Protestannaidd, daeth diwedd ar bererindota i Dyddewi, a diwedd ar ganu beirdd Cymru – am y tro."
Ond, fe ddaliai Dewi Sant ei le yn nhrefn yr Eglwys newydd, er gwaethaf dinistr y cerfluniau a’r ffenestri lliw oedd yn cynnwys delwau ohono.
Dechreuodd llenorion Saesneg ysgrifennu amdano, megis yn The Seven Champions of Christendom yn oes Elisabeth I, a cherdd ddifyr The Leek ddechrau’r 18fed ganrif.
Yr adeg honno sefydlwyd Cymdeithas yr Hen Frythoniaid yn Llundain i ddathlu Gŵyl Dewi trwy wrando pregeth, gorymdeithio trwy ddinas Llundain a chiniawa.
Yr un pryd wnaeth Cymry America ddechrau sefydlu cymdeithasau i anrhydeddu Dewi.
"Erbyn yr ugeinfed ganrif roedd pob math o sefydliadau ar draws y byd yn defnyddio ei enw, yn ysbytai, ysgolion, canolfannau busnes, clybiau a gwestai. Mae bron 400 o eglwysi yn anrhydeddu ei enw, o Ganada i Seland Newydd, o Jamaica i Iwerddon," meddai Gerald.
Ond wrth ddilyn y trywyddau hyn, ac eraill, dyw’r llyfr ddim yn esgeuluso tarddiad Dewi Sant ym Mhenfro – neu efallai yng Ngheredigion.
Mae’n anrhydeddu Rhygyfarch o Lanbadarn, a’i gampwaith Buchedd Dewi.
Mae’n dangos lle y gallwn fynd i weld hen ddelwau o Ddewi a’i fam Non, er gwaetha fandaliaeth y canrifoedd gynt.
Prin iawn yw’r testun sydd ar gael am Dewi Sant - yn enwedig yn y Gymraeg, a dyma’r unig gyfrol gynhwysfawr, ar hanes nawddsant Cymru.
Mae Gerald Morgan wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar hanes Cymru, gan gynnwys A Brief History of Wales, Castles in Wales a Looking for Wales.
Cafodd yrfa fel athro a phrifathro ar Ysgol Gyfun Llangefni, yna Ysgol Gyfun Penweddig, cyn dysgu Cymraeg a hanes lleol yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Mae’n byw yn Aberystwyth gyda’i wraig, Enid, a bu’r ddau’n arwain Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth yn 2015.
Bydd y gyfrol yn cael ei chyflwyno i dywysydd Parêd Gwyl Ddewi Aberystwyth 2016, yr artist Mary Lloyd Jones.
Mae Ar Drywydd Dewi Sant gan Gerald Morgan (£5.99, Y Lolfa) ar gael nawr.