Llyfrau

RSS Icon
22 Chwefror 2016

‘Chwifiwch y Ddraig Goch nid Jac yr Undeb' meddai awdur

O’r Chwe Gwlad i rowndiau terfynol pêl-droed yr Ewros, bydd hedfan baner draig goch Cymru yn boblogaidd iawn eleni. Ond, mae awdur llyfr newydd ar hanes baner Cymru wedi galw ar bobl Cymru i beidio â hedfan baner Jac yr Undeb.

Credai’r awdur poblogaidd Siôn Jobbins ei fod yn gyfystyr â ‘ildio cenedligrwydd Cymreig’ i bobl yng Nghymru i hedfan baner Jac yr Undeb.

Mae ei sylwadau yn ymddangos mewn llyfryn newydd am faner eiconig Cymru a gyhoeddir gan Y Lolfa – y cyhoeddwyr a lansiodd sticeri Ddraig Goch yn arbennig i’w gosod ar ben faner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru newydd yn ddiweddar.

"Yn y pendraw, mae chwifio Jac yr Undeb yn golygu ildio i San Steffan a gwneud Cymru yn anweledig," meddai Sion Jobbins. "Ble mae gennym faner Jac yr Undeb – yn ystod Gemau Olympaidd mewn ychydig o fisoedd, er enghraifft, gwelwn fod Cymru yn anweledig a ddim yn bodoli.

"Mae hedfan Jac yr Undeb yn golygu cytuno bod ein Cymreictod ond yn gallu cael ei ganiatau o fewn cyfyngiadau a rheolau San Steffan yn unig."

Mae’r llyfr yn adrodd y stori tu ôl i un o faneri mwyaf nodedig y byd a symbol mwyaf Cymru.

Gwnaiff yr awdur sawl darganfyddiad diddorol iawn hefyd, megis y ffaith y gwnaed y faner fel y mae hi heddiw yn swyddogol yn 1959.

Mae Sion yn cofio’r ymgyrchu a fu i gydnabod baner Cymru megis ymgyrchwyr lleol o genedlaetholwyr a myfyrwyr Bangor yn dringo i fyny polyn y fflag ar Dŵr yr Eryr yng nghastell Caernarfon ar ddydd Gwyl Dewi yn 1923 i rwygo Jac yr Undeb i lawr.

Mae’n debygol na bydd mwyafrif helaeth o bobl Cymru yn ymwybodol chwaith mai nid baner Cymru fel y mae hi heddiw oedd baner swyddogol Cymru yn yr 1950au.

Yn hytrach, cynllun y Swyddfa Gymerig oedd y faner swyddogol. Dim ond yn dilyn ymgyrch fawr wedi ei harwain gan Orsedd yr Eisteddfod yn 1958 y penderfynodd y cabinet ny 1959 y byddai’r faner gyfarwydd a phoblogaidd, o’r diwedd, fod y faner swyddogol.

Mae Sion hefyd yn cynnig y dylai’r 28ain o Fai fod yn ‘Ddiwrnod Baner’ y Ddraig Goch am mai ar y diwrnod hwn yn ôl yn 1865 mae’r cofnod cyntaf o’r faner yn ei ffurf modern yn cael ei hedfan.

Bu’r faner hefyd yn hedfan ar long y Mimosa wrth iddi hwylio o Lerpwl gyda’r ymfudwyr cyntaf ar gfyer y wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Cafodd Sion Jobbins ei eni yn Zambia a’i fagu yng Nghaerdydd. Fe hefyd yw awdur y llyfr poblogaidd The Welsh National Anthem: its story, its meaning hefyd wedi ei chyhoeddi gan Y Lolfa.

Mae The Red Dragon – The Story of the Welsh Flag yn gyfrol lliw llawn lluniau ac yn siwr o apelio at ymelwyr a brodorion i Gymru fel ei gilydd.

Mae The Red Dragon - The Story of the Welsh Flag gan Siôn Jobbins (£3.99, Y Lolfa) ar gael nawr. 

Rhannu |