Llyfrau
Llyfr y Mis - Fy Nghariad Cyntaf
Mae cyfrol o ysgrifau yn ymwneud â chariad wedi cael ei dewis gan Watersones i fod yn Lyfr y Mis y cwmni ar gyfer Ionawr 2016. Bydd yn cael ei harddangos a’i gwerthu yn wyth siop y cwmni yng Nghymru.
Fy Nghariad Cyntaf yw’r ail lyfr Cymraeg i gael ei ddewis i fod yn Lyfr y Mis Waterstones. Fe’i cyhoeddir gan y cyhoeddwyr o Gaernarfon, Gwasg y Bwthyn. Cyfrol arall gan Wasg y Bwthyn, Cariad pur? oedd y llyfr Cymraeg cyntaf erioed i gael ei ddewis i fod yn Lyfr y Mis Waterstones, a hynny yn ôl ym mis Ionawr 2015.
"Rydym wrth ein boddau fod Fy Nghariad Cyntaf wedi cael ei ddewis i fod yn Lyfr y Mis Waterstones," meddai Marred Glynn Jones, Golygydd Creadigol Gwasg y Bwthyn.
"Mae’n braf iawn fod Waterstones wedi dewis un arall o’n cyfrolau ni i fod yn Llyfr y Mis, a hynny yn dilyn llwyddiant y gyfrol Cariad pur? y llynedd.
"Mae Fy Nghariad Cyntaf hefyd wedi cael ei ddewis i fod yn Lyfr y Mis y Cyngor Llyfrau ar gyfer mis Ionawr felly mae’n ddathliad dwbwl i ni.
"Ac, wrth gwrs, mae’n gyfrol arbennig o addas ar gyfer mis Ionawr gan mai Ionawr 25 yw Dydd Santes Dwynwen, nawddsant cariad y Cymry."
Meddai llefarydd ar ran Waterstones, ‘Mae’n bleser mawr gennym i barhau i gefnogi ac hyrwyddo llyfrau Cymraeg, ac i gyflwyno ein Llyfr Cymraeg y mis, Fy Nghariad Cyntaf, lle mae dwsin o awduron gwych yn ysgrifennu am eu cariad cyntaf. Yn onest, dadlennol a gwefreiddiol, mae’n gasgliad gwych o ysgrifau ac yn berffaith ar gyfer Dydd Santes Dwynwen."
Mae deuddeg o bobol wedi cyfrannu at y gyfrol sef Manon Steffan Ros, Lyn Ebenezer, Sonia Edwards, Ifana Savill, Eleri Llewelyn Morris, Bethan Gwanas, Tony Bianchi, Lleucu Fflur Jones, Ioan Kidd, Hywel Gwynfryn, Gaynor Davies ac Eryl Crump.
Meddai Helena O’Sullivan, Pennaeth Marchnata Cyngor Llyfrau Cymru, "Rydym yn falch o gael cyhoeddi unwaith eto bod Waterstones wedi penderfynu dechrau eu hymgyrch yn y flwyddyn newydd gyda llyfr Cymraeg. Mae’r teitl yn rhoi rhagflas o’i gynnwys – Fy Nghariad Cyntaf – ac mae’n amserol iawn gyda Dydd Santes Dwynwen a Dydd Sant Ffolant ar y gorwel."
Fy Nghariad Cyntaf, Gwasg y Bwthyn, £7.95