Llyfrau

RSS Icon
18 Rhagfyr 2015

Tedi Millward - atgofion un o gewri tawel ein hiaith a’n diwydiant

MAE Taith Rhyw Gymro gan Tedi Millward yn adrodd hanesion gŵr a fu’n rhan ffurfiannol o rai o sefydliadau a mudiadau pwysicaf y Gymru gyfoes.

Mae rhestr cydnabod Tedi Millward yn cynnwys D. J. Williams, Gwynfor Evans, Waldo Williams, Siân Phillips a Saunders Lewis, i enwi dim ond rhai.

Tedi biau’r clod am fathu enw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a’i sefydlu ynghyd â John Davies, Bwlch-y-llan. Bu hefyd yn is-lywydd Plaid Cymru ac yn ymgeisydd dros y blaid.

Yn arbenigwr blaenllaw ar lenyddiaeth Gymraeg Oes Victoria, bu’n ddarlithydd a darllenydd yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan ddylanwadu ar genedlaethau o fyfyrwyr.

Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys darnau o sgwrs rhwng Tedi Millward a Jamie Bevan, cadeirydd presennol Cymdeithas yr Iaith.

Yn ôl Jamie Bevan yn ei ragair i’r gyfrol: “Derbyniodd Tedi ymateb chwyrn gan rai gwladgarwyr am ei rôl yn dysgu’r Gymraeg i’r Tywysog Siarl adeg yr arwisgo yn 1969. Daeth yn amlwg o’r sgwrs a gefais i a Tedi mai gweithredu gydag argyhoeddiad ei fod yn gwneud yr hyn oedd orau dros y Gymraeg yr oedd, fel y gwelwch wrth ddarllen ei stori.”

Esbonia Tedi Millward: “Gwyddwn fod ambell un yn credu ar y pryd y dylwn wrthod dysgu’r tywysog ac ymddiswyddo. Ni wnes hynny, na neb arall ar staff y coleg ychwaith. Cyn bo hir yr oeddwn yn barod i ddatgan paham, pe bai angen. Yr oeddwn yn credu − ac yr wyf yn dal i gredu − fod y brifysgol yn sefydliad a ddylai fod yn agored i bawb a all gael budd o addysg brifysgol.

“Peth digon cyffredin yw cael tywysogion a thywysogesau o wahanol dras a chenedl yn fyfyrwyr prifysgol. Fodd bynnag, yn achos Aberystwyth, wrth gwrs, yr oedd yn gwbl amlwg mai ystryw wleidyddol ar ran y Llywodraeth Lafur oedd gyrru’r tywysog arbennig hwn i un o golegau Cymru am ychydig wythnosau yn y tymor byrraf o’r flwyddyn golegol. Y bwriad oedd y byddai rhoi cynnig ar ddysgu Cymraeg yn ei anwylo i bobl Cymru, ac yn rhoi taw ar bob protest yn erbyn yr urddo yng nghastell Caernarfon.

“Penderfynais y byddai gwrthod dysgu’r myfyriwr annisgwyl hwn yn gwneud drwg mawr i Blaid Cymru, yn niweidio enw da’r coleg yn ogystal, ac yn fwyd a llyn i’r wasg a’r cyfryngau eraill… Y peth gorau, yn fy marn i, oedd mynd ati i droi’r dŵr i’n melin ein hunain a defnyddio’r sylw mawr a gai’r tywysog i ddangos ei bod yn bosibl dysgu cryn dipyn o Gymraeg mewn byr amser a’i bod yn werth ei dysgu.”

Meddai Jamie Bevan: “Dyma atgofion gŵr deallus, gwleidyddol a gwladgarol, a fu’n gweithredu dros yr iaith mewn cyfnod cynhyrfus a thyngedfennol yn ei hanes. Roedd gan Tedi rôl allweddol fel un o gynllunwyr y protestiadau tor cyfraith a lwyddodd i godi proffil achos yr iaith mor effeithiol yn y chwedegau.  

“Mae ei waith arloesol ar lenyddiaeth Gymraeg Oes Victoria wedi torri cwys newydd yn y byd academaidd a bu’n ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgolion Abertawe, Caerdydd ac Aberystwyth yn ystod ei yrfa.

“Roedd yn fraint enfawr i mi gael y cyfle i gwrdd a’r gŵr bonheddig hwn sydd, yn fy marn i, yn un o gewri tawel ein hiaith a’n diwylliant. Mae’r sgwrs a ddigwyddodd rhwng Tedi a minnau wedi’i blethu drwy destun y gyfrol ac mae’n myfyrio ar ei brofiadau trawiadol ac arloesol ym meysydd gwleidyddiaeth, iaith a dysg.

“Hyd y gwelaf i, er mwyn i Gymru ffynnu fel cenedl lewyrchus a hyderus bydd angen i’r cenedlaethau a ddaw gynhyrchu menywod a dynion o’r un cadernid, mwynder ac ymrwymiad â Tedi Millward. Pleser mawr oedd cael ei gwmni a gobeithiaf y cewch chithau’r un mwynhad wrth ddarllen ei stori hynod ddifyr.”

Cyhoeddir Taith Rhyw Gymro gan Tedi Millward gan Wasg Gomer a bydd ar gael yn eich siop lyfrau leol am £8.99 neu’n uniongychol oddi wrth www.gomer.co.uk

Rhannu |