Llyfrau

RSS Icon
14 Rhagfyr 2015

Dewi Pws yn troi at y Saesneg

Mae Dewi Pws yn adnabyddus fel cerddor, digrifwr, seren deledu ac ymgyrchwr dros y Gymraeg. Ond, yn ei lyfr newydd mae wedi penderfynu cyhoeddi cerddi Saesneg am y tro cyntaf. Mae’r gyfrol yn cynnwys pennod o’r enw ‘I’n Cymdogion Annwyl’ sy’n cynnwys saith cerdd Saesneg.

Ymhlith y cerddi mae: ‘Give us a Rest’ a ‘Turning English’ a ‘Visitors’. Yn y gerdd ‘Give us a Rest’ mae’r gerdd ddoniol yn nodi: ‘If they love England (as they’ve always professed), why don’t they stay there and give is a rest?’. Bu Dewi Pws yn ymgyrchydd dyfal dros beidio cynnwys caneuon Saesneg ar Radio Cymru.

Mae Popeth Pws yn gyfrol o gynnyrch Dewi Pws dros y blynyddoedd sydd yn crynhoi ei yrfa fel bardd, actor, cyflwynydd, cyfansoddwr a pherfformiwr.

Bu Dewi Pws yn un o sêr pennaf y byd roc am ddegawdau, ac yn y gyfrol ceir yr hen glasuron megis Nwy yn y Nen a Lleucu Llwyd – oll wedi eu gosod gyda'r alaw, y geiriau a chordiau gitâr, ymhlith caneuon sydd heb eu cyhoeddi o’r blaen megis Castell Aberteifi, Os a Cân Merêd.

Mae cerddi o bob math i’w darganfod – o’r doniol a’r digrif i’r difrifol a dwys, sydd yn cadarnhau dawn Dewi fel sgwennwr doniol a difrifol. Mae nifer helaeth ohonynt heb eu hargraffu o'r blaen ac yn rhai a gyfansoddwyd gan Ddewi ar gyfer rhaglenni Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru. Mae cerddi i blant yn ogystal. gyda Dewi Pws eisoes yn adnabyddus i nifer o blant yn sgil ei waith fel Bardd Plant Cymru.

Prif obaith Dewi Pws gyda chyhoeddi’r gyfrol newydd hon yw, ‘cael fy urddo gan ein hannwyl frenhines’, meddai.

Mae llawer o jôcs, straeon doniol, limrigau a sgetsh yn ogystal ag adran luniau sy'n edrych yn ôl ar yrfa Dewi o'i gyfnod yn perfformio gyda'r Tebot Piws ac Edward H, ei gymeriadau o raglen Torri Gwynt a'i gymeriadau mwy difrifol, yn ogystal â rhai lluniau personol.

Mae wedi perfformio’n fyw ar lwyfannau Cymru ac wedi actio mewn ffilmiau a chyfresi teledu megis Grand Slam!, Rownd a Rownd ac yn ddiweddar Lan a Lawr ar S4C.  

Mae Popeth Pws (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr. Am gopi cyfarch neu rhagor o wybodaeth, cysylltwch a mi drwy anfon ebost at fflur@ylolfa.com. 

Rhannu |