Llyfrau

RSS Icon
14 Rhagfyr 2015

Cantores glasurol dalentog yn rhyddhau cyfrol o ganeuon ar gyfer y Nadolig

Mae un o gantorion dawnus Cymru wedi troi ei llaw at gyfansoddi casgliad o ganeuon ar gyfer y Nadolig.

Mae’r fezzo-soprano Sioned Terry yn rhyddhau ei chyfrol gyntaf sy’n cynnwys tair o ganeuon, gyda geiriau Cymraeg a Saesneg yn ogystal.

Mae’r gyfrol sy’n dwyn y teitl ‘Teyrnged Yr Engyl ac unawdau eraill’, yn cael ei chyhoeddi gan gwmni ‘Curiad’ sydd eisoes wedi rhyddhau gweithiau gan gewri yn y maes cyfansoddi yng Nghymru fel Robat Arwyn, Gareth Glyn, Brian Hughes a Mervyn Burtch.

Bydd Sioned yn perfformio y dair cân ynghyd am y tro cyntaf yn ei chyngerdd Nadolig blynyddol yn Eglwys Arfordir Y Gogledd, Towyn ar yr 21ain o Ragfyr eleni.

Mae Sioned, sy’n byw yn Nhowyn ger Abergele, wedi perfformio gyda rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru fel y delynores Catrin Finch a’r tenoriaid adnabyddus Rhys Meirion a Wynne Evans yn ogystal a’r ddau fachgen lleol, Richard & Adam, a gafodd lwyddiant mawr yn dilyn eu hymddangosiad ar y gyfres deledu, ‘Britain’s Got Talent’.

Mae’r gyn-athrawes gerdd, yn wreiddiol o Fethel, Caernarfon wedi mynd ati i ’sgwennu’r geiriau Cymraeg ei hun yn ogystal â’r gerddoriaeth a chyfieithwyd y geiriau i’r Saesneg gan Peredur Glyn.

Dywedodd Sioned: ‘Er i’r dair cân fod yn seiliedig ar achlysur y Nadolig, nid dyna oedd y bwriad yn wreiddiol. Ond wrth i’r brawddegau cerddorol ddod at eu gilydd a dwyn ‘siap’ roedd geiriau ar thema’r Nadolig i weld yn gorffwys yn dda arnynt.

“Er engrhaiff, mae un o’r caneuon o’r enw ‘Hwiangerdd Maria’ yn syml iawn ei harddull, ac yn cael ei chanu o sabwynt Mair fel mam yn mynwesu ei phlentyn tra mae ‘Yn Ei Dro’ yn hollol wahanol ei natur,  yn cyhoeddi dyfodiad y Nadolig yn ei dymor a’i dro ac yn trafod cyffwrdd â ‘stori’r stabal’.

"Mae ‘Teyrnged Yr Engyl’ ar y llaw arall, sef teitl y gyfrol, yn wahanol eto ac yn dipyn mwy ‘gorfoleddus’ ei naws”.

“Mae wedi bod yn uchelgais gen i ers peth amser i gael cyhoeddi fy nghyfansoddiadau.  Er i mi fod wrth fy modd yn canu a pherfformio dwi’n mwynhau cyfansoddi yn ogystal ond weithiau mae’n gallu bod yn broses eithaf unig hefyd.

"Rydwi’n cael gwefr arbennig o berfformio ar lwyfannau amrywiol gyda phob math o artistiaid ond mae llonyddwch y broses o ’sgwennu a chyfansoddi yn gallu bod yn therapiwtig iawn hefyd, er yn unig ar brydiau.

"Chefais i ddim llawer o gyfle i gyfansoddi wedi gadael y coleg a mynd i ddysgu ond erbyn hyn, ar ôl derbyn anogaeth gan ffrindiau a  theulu i wneud mwy, rydw i wedi mynd ati yn ddiwyd.

"Mi ’sgwennais i gân o’r enw ‘Cerddwn Gwalia’ ar gyfer taith gerdded ‘Cerddwn Ymlaen’ Rhys Meirion rhyw ddwy flynedd yn ôl a rhoddodd hynny yr hwb i mi i fynd ati i sgwennu mwy, a mynd ati o  ddifrif y tro hwn a ‘Teyrnged Yr Engyl’ ydi ffrwyth y llafur hwnnw."

Dywedodd Mary McGuyer, prif olygydd cerdd cwmni ‘Curiad’: "Mae Sioned yn adnabyddus iawn ar lwyfanau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt am ei doniau lleisiol, ond mae ei thalentau cerddorol yn fwy na hyn - mae hefyd yn gyfansoddwraig fedrus a thalentog iawn!

"Mae ganddi dair unawd ar gyfer y Nadolig fydd allan ar fyrder, sydd yn llawn o ffresni deniadol a deallus, gydag adlewyrchiad o ddylanwad Dilys Elwyn Edwards, ac sydd hefyd yn adlweyrchu yr un cymeriad hyfryd ac a welir yn ei pherfformiadau medrus. Mae Curiad yn falch iawn o gael cyhoeddi ei chaneuon cyntaf."

Cyn i Sioned fentro ar ei gyrfa newydd ym 2012 cafodd gyfnod hapus iawn yn dysgu cerddoriaeth yn Ysgol Howell’s, Dinbych. Yna ym 2013 rhyddhaodd Sioned ei EP gyntaf ar label sain o’r enw ‘Cofia Fi’.

Ers hynny mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth ac yn ddiweddar, yn ogystal a pherfformio mewn datganiadau a chyngherddau, mae wedi bod yn teithio’r wlad gyda chwmni dawns ‘Sweetshop Revolution’ yn canu mewn cynhyrchiad o’r enw ‘I Loved You and I Loved You’, sy’n olrhain hanes bywyd y gyfansoddwraig Gymreig, Morfydd Owen.

Mae’r cynhyrchiad yn trafod ei pherthynas gythryblus gyda’i phriod Ernest Jones a’i pherthynas glos gydag Elliot Crawshay-Williams a oedd yn weinyddwr personol i neb llai na Winston Churchill.

Dywedodd Sioned: ‘Dwi’n chwarae rhan ysbryd Morfydd yn edrych yn ôl ar ei bywyd ac yn dilyn antur ei chyfnod byr ar y ddaear yn edrych ar gymlhethdod a thrasiedi ei sefyllfa. Roedd hi’n gyfansoddwraig ddawnus tu hwnt ac yn sicr yn feistres ar ei chrefft.

"Mae’r sioe yn parhau hyd ddiwedd Chwefror a ‘dwi wrth fy modd yn cael bod yn rhan ohoni.”

Rhannu |