Llyfrau

RSS Icon
07 Rhagfyr 2015

Nofel gyntaf Dewi ers tair blynedd yn un parti mawr

CHWEDL Gymraeg gyfoes, saga Geltaidd ac un parti mawr yw nofel newydd un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru – ei nofel gyntaf ers tair mlynedd.

Fe gyhoeddodd Dewi Prysor ei nofel gyntaf i oedolion yn 2006 ac ers hynny mae wedi datblygu band cryf o ddilynwyr ac ennill gwobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2011 am Lladd Duw.

Stori faeddgar ar gyfer oedolion sydd yn gymysgedd o ddireidi a hiwmor tywyll yw Rifiera Reu. Mae’n dilyn ymdrechion criw o ffrindiau i ddathlu Eclips 2015, y Gorleuad a Chyhydnos y Gwanwyn trwy gynnal y parti gorau a welwyd erioed – gyda chymorth deliwr cyffuriau lleol, cerddoriaeth da a broc môr hynod o annisgwyl.    

Wedi achub jiwcbocs rhag y sgip, mae criw o drop-owts canol oed yn cael syniad. Heb yn wybod iddyn nhw, dyma’r syniad gorau gafodd unrhyw gasgliad o misffits methiannus erioed. Wedi cyfres o gyd-ddigwyddiadau, maen nhw’n dechrau credu bod ffawd o’u plaid o’r diwedd. Ond creadur mympwyol a direidus iawn ydi ffawd…

“Roeddwn i eisiau sgwennu nofel ysgafnach na’r ddwy ddiwetha a chyfuno peth o hiwmor fy nhair nofel gynta efo hiwmor ardal wahanol – a hynny gyda chymeriadau gwahanol i’r rhai y sgwennais amdanynt o’r blaen,” medd Dewi Prysor sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog efo’i wraig a’u tri mab.

“Mae elfen o romp ‘feel-good’ iddi – er bod yma dywyllwch hefyd,” ychwanegodd yr awdur sy’n talu teyrnged i’w ffrindiau ffydlon yntau yn y diolchiadau i’r llyfr hwn.
Brodor o Gwm Prysor, Trawsfynydd yn wreiddiol, mae Dewi yn enw cyfarwydd trwy Gymru bellach.
Mae’n fardd a cherddor gyda’r band reggae a pync Vates ac yn gyflwynydd rhaglenni ar S4C.  Ysgrifennodd ddrama ynglŷn â’i gyfnod yn y ddalfa yn Ngharchar Walton, Lerpwl yn 1992, ar ôl cael ei gyhuddo o ‘gynllwynio i achosi ffrwydriadau’ fel rhan o ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr. Fe’i gafwyd yn ddi-euog.

Enwyd Lladd Duw (y Lolfa, 2010) ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2011 ac fe gyrhaeddodd ei nofel ddiwethaf, Cig a Gwaed (y Lolfa, 2012) Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013.
Mae canmol mawr i waith yr awdur. Medd yr awdur Llwyd Owen: “Mae Dewi Prysor yn gyflym ddatblygu’n drysor cenedlaethol.”

“Awdur sy’n gwneud i chi awchu am y bennod nesaf, ac am y bennod ganlynol, gan eich gadael yn gegagored ar hyd y ffordd,” ychwanegodd Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg360.

Mae’r awdur profiadol hwn wedi hen ennill ei blwy fel un o awduron mwyaf poblogaidd y Gymru gyfoes.

Bydd y nofel newydd hon yn siŵr o apelio at unrhyw oed o’r arddegau i fyny ac i’r sawl sydd yn  hoff o chwerthin, hiwmor iach, cerddoriaeth gyfoes, hanes, cefn gwlad a chwedloniaeth.

Mae Rifiera Reu gan Dewi Prysor (£9.99, y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |