Llyfrau

RSS Icon
07 Rhagfyr 2015

Y gyfrol gyflawn gyntaf o gerddi Mererid Hopwood

MAE Gwasg Gomer yn cyhoeddi’r gyfrol gyflawn gyntaf o gerddi gan y Prifardd Mererid Hopwood.

Mererid oedd y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001 am ei hawdl ‘Dadeni’. Yn dilyn hynny enillodd y Goron yn 2003 gyda’r gerdd ‘Gwreiddiau’.

Mae’r gyfrol Nes Draw yn cynnwys cerddi’r Gadair a’r Goron ynghyd â thros 70 o gerddi eraill, ac mae rhai ohonynt yn ymddangos mewn print am y tro cyntaf yn y gyfrol newydd hon.

Yn ôl Elinor Wyn Reynolds o Wasg Gomer: “Y mae Nes Draw yn un o’r trysorau hynny sy’n cynnig swyn a syndod i’r rhai sy’n caru barddoniaeth.

“Yn sicr, bydd pori drwy’r gyfrol hyfryd hon yn cynnig stôr cyfoethog i’r darllenydd, y mae diléit i’w gael ar bob dalen.

“Nid yw cyfrolau fel Nes Draw yn digwydd yn aml.”

Caiff y gyfrol ei lansio nos Lun, 14 Rhagfyr yn festri’r Tabernacl, Caerfyrddin am 7.30pm.

Bydd elw’r noson yn mynd tuag at waith Cymdeithas y Cymod.

Cyhoeddir Nes Draw gan Mererid Hopwood gan Wasg Gomer a bydd ar gael yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth www.gomer.co.uk

* Nes Draw, Mererid Hopwood, £9.99

Rhannu |