Llyfrau

RSS Icon
25 Tachwedd 2015

Nofel gyntaf Bethan Gwanas i oedolion ers bron i ddegawd

Ddiwedd Tachwedd mi fydd Bethan Gwanas, un o nofelwyr mwyaf poblogaidd Cymru, yn cyhoeddi ei nofel gyntaf i oedolion ers bron i ddegawd. Er iddi ysgrifennu nifer o lyfrau i blant, hunangofiant a llu o bethau eraill yn y degawd diwethaf, dyma ei nofel gyntaf i oedolion ers Hi Oedd fy Ffrind a gyhoeddwyd yn 2006.

Yn ôl Bethan: “Do, mi ges i drafferth efo hon. Mae hi wedi bod yn fwy o waith na’r llyfrau eraill i gyd efo’i gilydd a deud y gwir! Ond diolch byth, mae hi’n barod rŵan, a dwi’n gobeithio i’r nefoedd y bydd pobl yn ei mwynhau hi.”

Yn wahanol i’w nofelau blaenorol mae I Botany Bay yn nofel hanesyddol. Stori wir yw hi yn ei hanfod, wedi ei lleoli yn Nolgellau yn 1833 ac yn dilyn hanes Cymraes go iawn o’r enw Ann Lewis, merch ifanc oedd yn gweithio mewn siop ddillad yn y dref, nes iddi gael ei chyhuddo o ddwyn oddi ar ei chyflogwr.

Mae’r nofel yn gyfuniad cyffrous o ffeithiau hanesyddol a dychymyg Bethan, “Cefais y syniad ar ôl clywed cyfres ar Radio Cymru yn olrhain hanes y tri chant o ferched gafodd eu halltudio o Gymru i Botany Bay rhwng 1787 ac 1852,” meddai Bethan am ei hysbrydoliaeth ar gyfer y nofel.

“Merched ifainc oedden nhw i gyd, llawer yn eu harddegau a’u hugeiniau cynnar; morynion o bentrefi bychain a ffermydd anghysbell ac eraill fu’n cerdded strydoedd tywyll y trefi mawrion fel Abertawe, Merthyr Tudful a Chaerdydd. Dim ond dwyn bara, bacwn, bresych, hen sgidiau neu ambell ddilledyn oedd camwedd y rhan fwyaf ohonynt, ond yr un oedd y ddedfryd: isafswm o saith mlynedd ym mhen draw’r byd.”

Bu llyfr Deirdre Beddoe, Welsh Convict Women, yn sail i’r gyfres radio ac i waith Bethan hefyd.

“Allwn i ddim peidio â dychmygu’r sgyrsiau, y boen a’r ofn rhwng y llinellau,’ ychwanegodd Bethan, “Yn naturiol, a minnau’n un o’r ardal, cefais fy hudo gan hanes Ann Lewis o Ddolgellau. Cydiodd ei stori yn fy nychymyg yn syth, a bûm yn ceisio cael mwy o’i hanes. Ond dibynnu ar fy nychymyg fu raid yn amlach na pheidio.”

Dyma stori gyffrous a hynod ddarllenadwy sydd wedi ei seilio ar ffeithiau go iawn am gyfnod creulon a chythryblus yn ein hanes gan awdures sy’n feistres ar ei chrefft.

Merch ffarm o ardal Dolgellau yw Bethan. Mae’n adnabyddus fel awdures boblogaidd, teithwraig, cyflwynydd rhaglenni teledu a llawer mwy. Addaswyd ei nofel gyntaf Amdani!, am hynt a helynt tîm rygbi merched, yn gyfres deledu boblogaidd yn ogystal â drama lwyfan.

Mae Bethan wedi ennill llu o wobrau am ei nofelau gan gynnwys ennill gwobr Tir na n-Og ddwywaith - y tro cyntaf yn 2001 a’r ail yn 2003. Cyrhaeddodd ei nofel Hi yw Fy Ffrind restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005, a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T Llew Jones. Dyma ei hail nofel ar bymtheg.  Mae Bethan hefyd newydd gyhoeddi llyfr gwreiddiol i blant 5-8 oed, Coeden Cadi – tipyn o gamp i gyhoeddi dau lyfr newydd sbon.

Wedi’r holl ddisgwyl amdani, bydd I Botany Bay gan Bethan Gwanas yn siŵr o fod yn boblogaidd ar gyfer y Nadolig. Dyma Lyfr y Mis ar gyfer Rhagfyr. Bydd y nofel yn cael ei lansio’n swyddogol yn T H Roberts yn Nolgellau am 6.30 ar y 4ydd o Ragfyr yng nghwmni Bethan Gwanas, Haf Llewelyn a Sian James.

Mae I Botany Bay gan Bethan Gwanas (£8.99, Y Lolfa) yn cael ei chyhoeddi ar 24.11.15

Rhannu |