Llyfrau

RSS Icon
24 Tachwedd 2015

O Ffyrgi i Ffaro - Stori Bryan yr Organ

Daeth Bryan ‘Yr Organ’ Jones yn enwog yn 2012 ar ôl i’w fab roi fideo ohono ar Youtube yn gwirioni’n lân wrth wylio Cymru yn chwarae rygbi. Gwyliodd dros 117,000 o bobol y clip ‘Mad Welsh Man! F*** Me Faro’ a daeth Bryan yr Organ yn amlwg ar radio a theledu.

Ond fel y dengys ei hunangofiant sydd newydd ei gyhoeddi gan Wasg Gomer, mae mwy i’r Cardi angerddol na mynd yn wyllt o flaen y teledu wrth wylio’r rygbi…

Yn ôl Terwyn Davies, cynhyrchydd rhaglen Tommo ar Radio Cymru a chyd-awdur O Ffyrgi i Ffaro: Stori Bryan yr Organ: “Mae yna sawl haenen i Bryan… Mae’r elfen ddwl, ddoniol, gwyllt yr ydych chi’n ei weld pan mae e’n gyhoeddus. Ond hefyd mae e’n gallu bod yn berson dwys, yn enwedig pan mae e’n trafod ei emynau ac wrth ei organ.

“Mae e wastad yn berson hapus iawn… Mae ffiws fer gydag e, fydden i’n meddwl. Mae’n gallu gwylltio’n rhwydd….ac yn gallu bod yn dawel ac addfwyn,” meddai Terwyn.

Yn y llyfr mae’n sôn yn onest am y profiad o gael ei fabwysiadu.

Meddai: “Pan o’n i’n ddeg oed, ces i wybod gan Mam fy mod i wedi cael fy mabwysiadu… Doedd dim syniad o gwbwl gyda fi tan i Mam weud wrtha i… Dwi’n siŵr y bydde rhai plant wedi’i chael hi’n anodd i glywed newyddion felly. Ond ro’n i wedi cael magwraeth mor hapus, fe wnes i gymryd e’n syndod o dda. Ces i wbod ganddi mai o Gasnewydd ro’n i’n dod yn wreiddiol ac mai morwr oedd fy nhad biolegol.

“Sdim amheuaeth gen i fod llawer i fam wedi gorfod neud penderfyniad anodd iawn wrth wared plentyn, a hynny heb ddewis, a dyna’n union beth ddigwyddodd i fi.”

Cafodd gyfle i gwrdd â’i fam fiolegol, Madeline, a chyfle i adnabod ei theulu hithau yng Nghasnewydd. Ond mae’n cyfadde ei fod yn falch iawn mai ar fferm ger pentre Llanfarian yng nghefn gwlad Ceredigion y cafodd ei fagu yn y pen draw.

“Dwi’n ddigon hapus a bodlon fy mod i wedi cael fy magu yng nghanolbarth Ceredigion, gyda’i glannau, bryniau a’i choedydd; a’r teulu dwi’n perthyn iddo nawr, a’r bobol dwi wedi dod i’w nabod drwy’r blynyddoedd.

“Na, ’sdim eisiau lle gwell na hwn i fyw, i weithio a hamddena. Allen i fyth a byw mewn tre neu ddinas, a Duw a ŵyr shwt fydden i wedi troi mas pe bydde hynny wedi digwydd.”

Dros y blynyddoedd bu Bryan yn gwneud pob math o swyddi – gan gynnwys bod yn dafarnwr, yn gysodwr, yn wneuthurwr arwyddion a gyrrwr bws. Cerddoriaeth yw ei ddiddordeb mawr ac mae’n cael cynigion i chwarae’i organ mewn dawnsfeydd, tafarnau, clybiau, nosweithiau llawen, cymanfaoedd, priodasau ac angladdau yn ogystal ag ar raglenni teledu. Mae’n gwerthu CDs ohono yn chwarae ei organ ac er Mawrth 2014 bu’n westai rheolaidd ar raglen Tommo ar Radio Cymru hefyd.

Bydd O Ffyrgi i Ffaro: Stori Bryan yr Organ, Bryan Jones gyda Terwyn Davies ar gael yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr Gwasg Gomer ar www.gomer.co.uk

Bydd Bryan yr Organ yn llofnodi llyfrau yn:
Siop Inc, Aberystwyth: Dydd Sadwrn, 28ain o Dachwedd, 11am
Jac Do, Aberaeron: Dydd Sadwrn, 28ain o Dachwedd, 3pm
Y Ffair Aeaf, Stondin Siop Inc: Dydd Llun, 30ain o Dachwedd, 11am
Y Ffair Aeaf, Stondin Canolfan Bryn Myrddin: Dydd Llun, 30ain o Dachwedd, 12pm
Siop Iago, Castell Newydd Emlyn: Nos Fercher, 2ail o Ragfyr, 6pm
Siop y Smotyn Du, Llanbed: Dydd Sadwrn, 5ed o Ragfyr, 10.30am
Ffair Nadolig Llanerchaeron: Dydd Sadwrn, 5ed o Ragfyr, 2pm
Ffair Nadolig Llanddewi Brefi: Dydd Sul, 6ed o Ragfyr, 2 - 3pm
Siop Cyfoes, Rhydaman: Dydd Sadwrn, 12fed o Ragfyr, 10.30am
Siop Na-nôg, Caernarfon: Dydd Mawrth, 15fed o Ragfyr, 11am

 

Rhannu |