Llyfrau

RSS Icon
16 Tachwedd 2015

Wythnos Siopau Llyfrau Cymraeg

Bydd ymgyrch Wythnos Siopau Llyfrau Cymraeg yn cael ei chynnal eto eleni ac fe fydd Radio Cymru yn darlledu’n fyw o nifer siopau llyfrau ledled Cymru o 16–20 Tachwedd.

"Bu’r ymgyrch yn hynod o lwyddiannus y llynedd,” meddai Helena O’Sullivan, Pennaeth Adran Gwerthu a Marchnata’r Cyngor Llyfrau, “ac rydym yn falch iawn fod Radio Cymru yn mynd ar daith eto eleni. Mae’r siopau yn ganolfannau pwysig yn eu hardaloedd a bydd yr wythnos yn gyfle gwych i ddenu darllenwyr i’r siop, yn ogystal â rhoi roi sylw i holl lyfrau newydd y Nadolig."

Bydd rhaglen Shân Cothi yn darlledu o un siop benodol o ddydd Llun tan ddydd Iau, gan ymweld â Siop Siân, Crymych; Awen Menai, Porthaethwy; Siop Cwlwm, Croesoswallt a Siop y Bont, Pontypridd. Bydd rhaglen Tudur Owen yn darlledu’n fyw o siop Bys a Bawd, Llanrwst, ar y dydd Gwener.

"Rydym fel llyfrwerthwyr yn falch o’r cyfle i fod yn rhan o’r wythnos arbennig hon," meddai Dwynwen Berry o siop Bys a Bawd, Llanrwst. "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael Tudur Owen yma i ddarlledu ei raglen ac i gyfarfod â’r cwsmeriaid."

Ychwanegodd Betsan Powys ar ran Radio Cymru: "Mae Shân a Tudur wrth eu bodd yn trin a thrafod llyfrau ar eu rhaglenni, a hefyd yn mwynhau cyfarfod â’r gwrandawyr. Wel, dyma gyfle i gyfuno’r ddau! Bydd nifer o awduron yn galw heibio ac yn rhoi blas i ni o’u cyfrolau diweddaraf. Nofel newydd sbon Caryl Lewis, Y Bwthyn, fydd ar ‘Llyfr bob Wythnos’, yn cael ei darllen gan yr actor Ifan Huw Dafydd, a bydd trafodaeth fywiog fel arfer yng Nghlwb Llyfrau Tudur Owen."
 

Rhannu |