Llyfrau

RSS Icon
16 Tachwedd 2015

Cerddi Alan Llwyd - cynhaeaf toreithiog chwarter canrif

AR ei ffordd i’r siopau yr wythnos hon mae cyfrol sy’n ffrwyth chwarter canrif o farddoni – cyfrol sydd, yn ôl y Prifardd Alan Llwyd, yn cynrychioli carreg filltir bwysig iawn yn ei yrfa.

Braint o’r mwyaf, felly, i Barddas yw cyhoeddi Cerddi Alan Llwyd: yr Ail Gasgliad Cyflawn 1990-2015, cyfrol sy’n cynnwys y cyfan o’r cerddi o’r pedair cyfrol a gyhoeddwyd ers i’r Casgliad Cyflawn Cyntaf ymddangos yn 1990 yn ogystal ag adran sylweddol iawn o gerddi newydd sbon – nifer fawr ohonynt heb weld golau dydd o’r blaen. Yn eu plith ceir cerddi i’w wyres, cywyddau marwnad athrylithgar i gyfeillion ac englynion dirdynnol, megis yr un i’r bachgen bach o Syria a olchwyd i’r lan ar arfordir Twrci. 

Disgrifia Alan Llwyd ei gynnyrch diweddaraf fel “cerddi sy’n mynegi pryder am ddyfodol – ac am gyflwr – y Gymraeg, yn naturiol, a cherddi sy’n mynegi pryder ynghylch cyflwr y byd. Ond yn y pen draw, y cyflwr dynol, y profiad o fyw bywyd ar y ddaear hon yn ei wychder a’i wae, yw prif ddeunydd y cerddi hyn. Ystâd bardd astudio byd ac astudio bywyd.”

Ac yntau wedi ei benodi’n Athro yn Academi Hywel Teifi er 2013, mae’n cyfaddef mai gweithgarwch ysbeidiol yw barddoni bellach yng nghanol myrdd a mwy o brosiectau llenyddol eraill. Ond y mae’r broses o farddoni yn awr, fel erioed, meddai, yn parhau i fod yn gyfuniad o dri pheth hanfodol, sef myfyrdod, ysbrydoliaeth a chrefft. 

“Gall un gerdd gymryd misoedd i’w llunio,” eglura. “Er enghraifft, cymerodd un o gerddi mwyaf diweddar y gyfrol hon, fy nghywydd er cof am Gerallt Lloyd Owen, naw mis i mi ei llunio: chwe mis o fyfyrdod, heb un llinell yn dod, a thri mis o gyfansoddi. Ar ôl cyfnod y myfyrdod y daw’r ysbrydoliaeth sy’n angenrheidiol i droi crefft anodd y gynghanedd yn grefft hawdd, ymddangosiadol rwydd yr olwg.”

Yn ôl yr Athro Tudur Hallam yn ei gyflwyniad i’r gyfrol, yn y gweithiau diweddaraf hyn y gwelir y Prifardd yn canu rhai o’i gerddi mwyaf ysgytwol: “Yn y cywydd marwnad i Gerallt Lloyd Owen, fel yn y farwnad i Gwilym Herber ac i James, cyfaill ei fab, mae yma ganu gwirioneddol rymus sy’n llwyddo i gyfuno’r personol a’r dynol-oesol ynghyd.Wrth i feidroldeb eraill wasgu ar gorff, meddwl ac enaid y bardd, dyma ef ei hun, nid yn annhebyg i Guto’r Glyn yn ei henaint, yn canu rhai o’i gerddi mwyaf ysgytwol erioed.”

* Cerddi Alan Llwyd: Yr Ail Gasgliad Cyflawn 1990-2015, Cyhoeddiadau Barddas, Pris: £19.95 (clawr caled)

Rhannu |