Llyfrau
Aderyn drycin a cholomen ddof - ar drywydd Meic Stevens
Prin fod yna artist mwy dadleuol na Meic Stevens ac mae’r gyfrol hon yn tafoli ei gyfraniad mewn modd yr un mor gignoeth â’i ganeuon ef ei hun.
Mae Ar Drywydd Meic Stevens y Swynwr o Solfach yn olrhain gyrfa Meic Stevens, gan ddechrau ym mharti pen-blwydd Meic yn 70 oed yn y Royal George yn Solfach.
Mae Hefin Wyn wedi cyfweld llu o bobl fu’n ymwneud â gwahanol gyfnodau yng ngyrfa’r canwr gwerin gan lunio cyfrol sy’n wrthbwynt i gofiant y canwr ei hun – a gyhoeddwyd gan Y Lolfa mewn tair cyfrol.
Ceir siarad plaen a di-flewyn ar dafod gan ei gydnabod o ddyddiau bore oes yn Solfach ac am yr helyntion ddaeth i’w rhan wrth brifio. Ceir cip ar ei ddawn gan gydnabod yn nyddiau cynnar Caerdydd, Manceinion a Llundain yn ogystal â’i gyfnod yn Llydaw. Mae sylwadau aelodau’r Cadillacs a fu’n cyfeilio iddo am flynyddoedd yn hynod ddadlennol ac yn cyfleu antur y byd roc a rôl. Mae nifer o artistiaid Cymru yn tystio i’w athrylith a’i ddylanwad heb anghofio am ei oriogrwydd.
Mae nifer o’r merched, fel Gwenllïan a fu’n wrthrych nifer o’i ganeuon serch ynghyd a’i gyn-wraig, Tessa, yn siarad yn agored.
Trwy enau’r gŵr o Hwlffordd, Peter Swales, a fu’n gweithio yn y diwydiant roc yn Efrog Newydd datgelir gobeithion Meic o’i gwneud hi yn America ar un cyfnod. Ond cyfeirir at wefannau diweddar yn America sy'n canu clodydd ei unig record ar label Warner Brothers, 'Outlander'. Mae’r chwerw â’r sur, yn ogystal â’r llawen a’r hardd, yn cael eu cofnodi mewn cyfrol sy’n dathlu cyfraniad y mwyaf lliwgar o’n perfformwyr.
"Gall Meic ei gyflwyno ei hunan yn ei noethni emosiynol nes ein syfrdanu,” medd Hefin Wyn “Fe'n tynna i mewn i'w brofiad nes ein galluogi i werthfawrogi'r eiliad fel emosiwn y tu hwnt i ni'n hunain.
"Dyna yw gwir fawredd. Gweithreda fel trosglwyddydd emosiynau. Gweithreda ar wastad ymhell uwchlaw'r diddanydd.
"Diddanwyr oedd artistiaid y Nosweithiau Llawen traddodiadol. Doedd neb yn cyfleu ei wir hunan. Ond roedd hwn yn wahanol, yn aderyn drycin ac yn golomen ddof am yn ail."
Bu’r awdur yn ohebydd adloniant llawn-amser Y Cymro am gyfnod yn y 1970au yn nyddiau byrlymus y byd pop Cymraeg cynnar.
Cyhoeddodd Doedd Neb yn Becso Dam yn olrhain gyrfa’r band Edward H Dafis. Cyhoeddodd hefyd ddwy gyfrol swmpus yn olrhain hanes adloniant ysgafn Cymraeg – Be-Bop-a-lula’r Delyn Aur yn 2002 (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn) a Ble Wyt Ti Rhwng? Hanes Canu Poblogaidd Cymraeg 1980-2000 yn 2006.
Mae’r gyfrol hon yn ddilyniant i’w gyfrol Ar Drywydd Waldo ar Gewn Beic a gyhoeddwyd yn 2012 – cyfrol a’i disgrifiwyd fel un a oedd yn torri tir newydd am ei bod yn llyfr taith ac yn gofiant yn un.
Mae Ar Drywydd Meic Stevens – Y Swynwr o Solfach gan Hefin Wyn ar gael nawr (£14.99, Y Lolfa).