Llyfrau

RSS Icon
10 Tachwedd 2015

Yr awdures Meleri Wyn James yn mynd ar daith tua’r gogledd

YMHEN rhai wythnosau bydd yr awdures Meleri Wyn James o Aberystwyth yn mynd ar daith @LlyfrDaFabBooks – taith sydd wedi ei henwi ar ôl cyfrif trydar newydd Cyngor Llyfrau Cymru. Bwriad y daith, a fydd yn diddanu 500 o blant, yw galluogi awduron i ymweld ag ysgolion er mwyn ceisio annog plant i ddarllen rhagor, a rhoi cyfle iddynt gwrdd ag awdur a phrynu llyfr.

Bydd Meleri, sydd yn adnabyddus am y gyfres Na, Nel! gan Wasg y Lolfa, yn ymweld â 10 o ysgolion yng ngogledd Cymru gan ddechrau’r daith yn Ysgol Gynradd Dolgellau ar 23 Tachwedd. O’r fan honno, fe fydd yn teithio i Ysgol O.M. Edwards yn Llanuwchllyn, Ysgol yr Eifl, Trefor, Ysgol Pont-y-gof, Botwnnog, Ysgol y Garnedd, Bangor, Ysgol y Borth ym Mhorthaethwy, Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, Ysgol Bro Cynfal, Llan Ffestiniog ac Ysgol Bro Cernyw yn Llangernyw, cyn diweddu’r daith yn Ysgol Eglwys Bach yn Nyffryn Conwy.

Yn ôl Sharon Owen, Swyddog Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen gyda Chyngor Llyfrau Cymru, mae taith o’r fath yn gyfle arbennig i blant gwrdd ag awdur a gweld y sawl sydd yn gyfrifol am y gwaith.

Meddai: “Mae nifer o ddisgyblion yn clywed am awduron y llyfrau y maent yn eu darllen, ond nifer fechan sydd yn ddigon ffodus i gael y cyfle i gwrdd â’r awdur yn y cnawd. Bydd Meleri yn trafod ei llyfrau ac yn annog plant i ddarllen ac ysgrifennu, a bydd cyfle i’w holi am y gwaith.”

Mae Meleri Wyn James, sydd yn wreiddiol o bentre Beulah ger Castellnewydd Emlyn, yn edrych ymlaen at y daith ac yn ysu am gyflwyno ei llyfrau Na, Nel! i’r disgyblion.
“Mae wastad yn bleser cwrdd â’r bobol bwysig,” meddai, “sef y plant sy’n darllen llyfrau Na, Nel!

“Yn y sesiynau, fe fydda i’n siarad ychydig am yr hyn sy’n fy ysbrydoli i ysgrifennu – dechreuais i ysgrifennu straeon pan o’n i tua oedran y plant fydda i’n cwrdd â nhw ar y daith.

“Byddaf hefyd yn dangos iddyn nhw sut mae syniad yn y dychymyg, a nodiadau ar bapur, yn cael eu troi’n llyfrau gan Wasg y Lolfa.”

Ychwanegodd: “Mae wastad yn ddifyr clywed cwestiynau’r plant a gobeithio y cawn gyfle i greu stori ar y cyd. Bydd siopau lleol yn ymweld â’r ysgolion hefyd a bydd cyfle i’r plant weld pa lyfrau Cymraeg sydd ar gael – mae llond sach Nadolig o ddewis i ysgogi’r dychymyg!”

Mae’r Lolfa newydd argraffu’r llyfr Na Nel! cyntaf am y trydydd tro. A chan ei bod mor boblogaidd, mae gwefan wedi ei chreu hefyd, sef www.nanel.co.uk – y wefan Gymraeg gyntaf o’i math i dderbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i Gyngor Llyfrau Cymru am eu gweledigaeth a’u cefnogaeth wrth annog plant i ddarllen ac ysgrifennu a defnyddio’u dychymyg,” meddai Meleri.

Bydd pump o siopau llyfrau yn y Gogledd yn cydweithio â’r Cyngor Llyfrau yn ystod y daith, a byddant yn bresennol yn yr ysgolion gyda’u stoc. Bydd cyfle gwych, felly, i’r plantos wario eu harian poced a phrynu llyfr wedi ei lofnodi gan Meleri i gofio am yr achlysur.

Os hoffech i Gyngor Llyfrau Cymru drefnu taith debyg yn eich ardal chi, cysylltwch â Sharon Owen yn y Cyngor Llyfrau ar (01970) 624151 / sharon.owen@llyfrau.cymru.

Rhannu |