Llyfrau

RSS Icon
09 Tachwedd 2015

Cofio golygydd amryddawn

‘Pwy ydi’r Sgriblwr hwn?’ holodd un o ddarllenwyr Y Cymro unwaith wrth drafod gwaith Glyn Evans, wedi’i syfrdanu, mae’n siŵr, gan ffraethineb a beiddgarwch y colofnydd poblogaidd.

Ac nid dyma y tro cyntaf i bobl holi pwy oedd yr ysgrifennydd dawnus yma, ac yntau yn ysgrifennu colofnau a oedd yn ‘rhoi pin mewn ambell i swigen’ i amrywiaeth o bapurau dan enwau ffug.

Ac yn awr, dyma gyfle i bob un ohonoch ddod i adnabod y Golygydd arbennig hwn a darllen rhai o’i straeon byrion a’i golofnau a mwynhau rhai o’i gerddi.

Dyma gyfle i Gymru gyfan gael cipolwg ar fywyd yr ysgrifennwr naturiol oedd â’r ddawn i bryfocio mewn ffordd hwyliog a chynnil.

Roedd yn newyddiadurwr o’i gorun i’w sawdl, yn llenor a bardd amryddawn a fu’n Dad arbennig, yn ffrind i lawer ac yn fentor i nifer fawr o newyddiadurwyr llwyddiannus yma yng Nghymru.

Trwy ddarllen ei waith  ac atgofion teulu, ffrindiau a chydweithwyr yn y gyfrol hon mae’n gyfle i bob un ohonom ddod i adnabod y Sgriblwr talentog hwn ychydig yn well.

Gyda dros 20 o gyfraniadau gan deulu, ffrindiau a chydweithwyr Glyn mae yna amrywiaeth o ddeunydd sydd yn edrych ar yr hogyn direidus o Fôn, y tad cydwybodol ac arbennig, a’r gweithiwr diflino.

Fel yng ngeiriau Gwyn Griffiths yn ei ysgrif yn y gyfrol, ‘Glyn, y newyddiadurwr dygn, di-ildio’:  “ Glyn Evans oedd y gweithiwr caletaf a mwyaf cynhyrchiol y deuthum ar ei draws erioed.”

Marred Glynn Jones, Golygydd Creadigol Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon a Lowri Rees-Roberts o Lanuwchllyn, a fu’n cydweithio â Glyn, a ddaeth at ei gilydd i greu’r gyfrol hon.

Meddai Marred: “Mae wedi bod yn fraint cael gweithio ar y gyfrol hon sy’n cofio talent mor arbennig. Roedd dylanwad Glyn ar y byd newyddiadurol yng Nghymru yn fawr, a’i ddawn bob amser yn pefrio. Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu at y gyfrol hon.”

Mae Lowri wedi gweithio gyda Glyn ar Y Cymro ac yn ddiweddar iawn ar y cylchgrawn WA-w!

Meddai Lowri: “Mae’r profiad o weithio ar y gyfrol yma wedi gwneud imi brofi nifer fawr o wahanol emosiynau.

"Dwi wedi chwerthin a chrio yn uchel wrth ddarllen nifer fawr iawn o’r colofnau, bob un wedi eu hysgrifennu’n gynnil ac wedi cofio geiriau Glyn Evans ei hun wrth fynd at i ysgrifennu’r gwaith, 'Nid yw’r hyn a sgrifennir heb ymdrech yn bleser i’w ddarllen.'  Mae pob darn yn sbeshial ac yn werth ei darllen ac mae’r gyfrol yn gyfle i ailedrych ar waith un o newyddiadurwyr mwyaf talentog yr iaith Gymraeg.”

Un sydd wedi cyfrannu i’r gyfrol yw William H Owen.

Meddai Wil “Roedd hi’n fraint cael cyfrannu i’r cofiant, yn arbennig oherwydd cyfraniad Glyn i’r Cymro.

"Pan oedd llawer iawn ohonon ni wedi diflannu i borfeydd brasach roedd o wedi aros yn ffyddlon i wasanaethu’r papur am flynyddoedd.

"Wedi iddo adael y papur bu’n gyfrannwr amhrisiadwy iddo gyda cholofn Colyn Pigog.”

Un arall sydd wedi cyfrannu yw Ioan Roberts.

Meddai Ioan: “Diwyd, direidus, gwreiddiol, caredig, diymhongar - yr un ansoddeiriau sy’n codi dro ar ôl tro wrth hel atgofion am Glyn Evans.

"Er imi ei adnabod am bum degawd fel cydweithiwr a ffrind, mi ddysgais lawer o bethau newydd amdano wrth ddarllen y gyfrol yma.

“Mae’r darnau o’i waith ei hun sy’n britho’r gyfrol rhwng atgofion pobl eraill yn gwneud inni sylweddoli o’r newydd cymaint o ryfeddod oedd o.

"Yn ogystal â’i hiwmor a’i ffraethinb diarhebol roedd ynddo ddyfnder a dwyster dirdynnol ar adegau ac mae’r golygyddion i’w llongyfarch am ddod â’r holl agweddau at ei gilydd rhwng dau glawr.”

Mae’r gyfrol yn awr ar werth mewn siopau llyfrau ar draws Gymru neu prynwch gopi trwy ddefnyddio gwefan Gwales – www.gwales.com

Rhannu |