Llyfrau
Hanfod dweud stori yw bod yno yn ei chanol hi
Hunangofiant gwahanol a chyffrous tu hwnt yw Yn Ei Chanol Hi, a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Mae’n dilyn ôl traed un o newyddiadurwyr gorau Cymru wrth iddo deithio o Gymru i ben draw’r byd yn chwilio am stori, ac yn olrhain gyrfa gyffrous sy’n cynnwys cyfweld y diweddar Cyrnol Gaddafi o Libya.
Fel un o newyddiadurwyr mwyaf profiadol Cymru, fe gafodd Tweli Griffiths, o Langynog, ger Caerfyrddin, gyfleoedd unigryw i deithio i ganol y stori gan roi perspectif newydd ar rai o ddigwyddiadau mwyaf yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain – a gwireddu un o’i ddywediadau, ‘mae ’na Gymry yn ei chanol hi ymhob man!’
Mentrodd i rai o wledydd peryclaf y byd er mwyn torri stori – gan gynnwys Cwrdistan Irac a Gogledd Iwerddon. Bu ym merw straeon newyddion byd-eang eraill, fel chwalu wal Berlin a newyn mawr Ethiopia. Ac fe ddilynwn stori deimladwy ei ymdrechion i ddod o hyd i’r plentyn amddifad Joseff, ugain mlynedd wedi’r newyn hwnnw.
Fe ddown i nabod y dyn ei hun yn y cofiant cyffrous hwn wrth iddo rannu ochr bersonol siwrnai ei fywyd hefyd, a chawn glywed am ei ddiddordeb, ers yn blentyn, mewn consuriaeth!
"Yma fe geir chwip o straeon a thalp o hanes mewn un gyfrol," medd y newyddiadurwr Betsan Powys: "I Tweli, hanfod dweud stori yw bod yno yn ei chanol hi, a’i dweud hi fel y mae hi. I fi, fe yw meistr y grefft."
O newyddion mawr y dydd, i faterion llosg yng Nghymru a thu hwnt, gwelwn rannu’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau ar hyd ei deithiau. Gyda gwledd o brofiad ar raglenni Y Dydd, Y Byd ar Bedwar, a llu o raglenni dogfen hefyd, go brin yw’r Cymry Cymraeg gafodd fywyd mor gyffrous.
"Dyma berl o gasgliad o atgofion gan yr hac annibynnol o Bencader a lwyddodd i dorri ei gŵys bersonol a thrwy hynny wthio ffiniau ac ehangu gorwelion mewnblyg newyddiaduraeth deledu yn yr iaith Gymraeg." ychwanegodd y darlledwr Gwilym Owen.
"Mae’n gofnod cyfoethog a phroffesiynol o ran arddull, mynegiant, sylwebaeth a dadansoddi ac yn sicr yn gyfrol y dylai pob myfyriwr newyddiadurol Cymraeg gael ei swcro os nad ei orfodi i’w darllen!"
Bydd Tweli yn cynnal sesiwn arwyddo arbennig yng Nghaffi’r Atom yng Nghaerfyrddin o 11 o’r gloch y bore tan 1 y prynhawn ar y 14eg o Dachwedd ac mae croeso cynnes i bawb.
Mae Tweli Griffiths – Yn Ei Chanol Hi bellach ar gael (£9.99, Y Lolfa).