Llyfrau

RSS Icon
02 Tachwedd 2015

Tynnu Colur Toni Caroll…

Yn Tynnu Colur Toni Caroll, cawn gip y tu ôl i’r llenni ar stori ddifyr Carol Anne James o Gwmgïedd. Sut ddaeth y fenyw o bentre bach yn nghesail Cwm Tawe’n un o berfformwyr amlyca a disgleiria Cymru?

Cawn yr hanes am y tro cyntaf yn yr hunangofiant cynnes, gonest a theimladwy hwn.

Bu Toni’n canu mewn clybiau yn ne-orllewin Cymru yn ei harddegau cyn symud i weithio yn Llundain a gogledd Lloegr.

Bu’n perfformio cabaret a theithio’r byd ar longau moethus. Dyma fenyw oedd am fynd yn bell – yn wir, aeth ei llwyddiant â hi mor bell ag Ewrop, y Caribî a De Affrica.

Mae diddanu a pherfformio yn ei gwaed. Datblygodd Toni ei thalentau ymhellach a mentro i fyd comedi ac actio hefyd.

Ymddangosodd ar raglenni Caryl yn yr 80au, ac actio sawl rhan wahanol ar S4C, yn cynnwys cymeriad Olwen yn Pobol y Cwm a chyfresi poblogaidd megis Tair Chwaer, Con Passionate, a Gwaith / Cartref.

Yn ôl Toni: “Se rhywun yn gofyn i fi pa un sy’n well ’da fi – canu, gwaith comedi neu acto – gelen i drafferth dewis

"Y peth yw, maen nhw i gyd mor wahanol, ond mae’n rhaid cyfadde bod perfformo’n fyw yn dod â dimensiwn arall iddi. ’Sdim byd tebyg iddo. Mae’n drydanol.”

Dyw hi ddim yn un sy'n aros yn ei hunfan chwaith ac yn bodloni ar beth sy gyda hi – mae'n edrych ymlaen at y sialens nesa bob tro.

Mae Toni'n adnabyddus am ei delwedd glamorous, ac mae'n cyfaddef ei hun taw'r colur, y dillad a'r bling yw sylfaen ei hwyneb cyhoeddus. Felly beth sy'n digwydd pan ddaw'r colur hwnnw i ffwrdd?

Meddai Toni: “Wy fel dou berson mewn gwirionedd – Carol Anne Healey wrth fynd o gwmpas ’y mhetha o ddydd i ddydd, ond siwrna bydda i’n gwisgo’r colur, y secwins a’r sgitsha uchel a dodi ’nhraed ar y llwyfan, mae Carol Anne yn troi’n Toni Caroll.“

Yn ôl Clive Rowlands yn y rhagair i’r gyfrol, “Mae hi’n ddoniol iawn, mae hi’n actores ac mae hi’n naturiol. Mae gwir dalent gyda hi, ac awydd dwfwn i berfformo.”

Mae Tynnu Colur Toni Caroll gyda Ioan Kidd yn eich siop lyfrau leol nawr neu ar gael yn uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer ar www.gomer.co.uk

* Tynnu Colur Toni Caroll. Gyda Ioan Kidd. ISBN 9781848518773, £8.99. Gwasg Gomer, clawr meddal, 128 tudalen

Rhannu |