Llyfrau

RSS Icon
02 Tachwedd 2015

Cogydd o Gymro a’i gyfrol Gymraeg gyntaf…

Tir a môr Cymru yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer cyfrol Gymraeg gyntaf y cogydd adnabyddus o Ddyffryn Clwyd, Bryn Williams.

Mae Bryn yn wyneb ac yn llais cyfarwydd i ni – yn gyflwynydd Cegin Bryn ar S4C, yn enillydd cwrs ar The Great British Menu, yn westai rheolaidd ar Saturday Kitchen Live yn ogystal ag yn berchennog bwytai prysur Odette’s yn Llundain a Phorth Eirias ym Mae Colwyn.

Mae ei gyfrol newydd sbon, Tir a Môr, yn cynnwys dros 30 o ryseitiau newydd, yn ogystal â hanes difyr Bryn ei hun a datblygiad ei yrfa llwyddiannus fel cogydd.

Cyhoeddir y gyfrol gan Wasg Gomer a chafodd ei lansio’n swyddogol ar 27 Hydref.

Meddai Bryn Williams: “Mae’n bleser gen i gyflwyno’r gyfrol hon, sy’n garreg filltir bwysig i fi. Nid dyma’r gyfrol gynta i mi ei chyhoeddi, ond hon ydi’r gynta yn Gymraeg.

“Wrth i mi agosáu at ddeugain oed, mae’n gyfnod da i edrych yn ôl ar fy mywyd ac ystyried o ble dwi wedi dod, lle rydw i rŵan ac i ble dwi’n mynd nesa.

“Drwy adrodd hanes fy nhaith, o’r dyddiau pan o’n i’n hogyn bach yn chwarae yng nghefn gwlad sir Ddinbych, i’r presennol, a finne’n rhedeg dau dŷ bwyta, dwi’n gobeithio dangos fy angerdd dros fwyd a choginio, a’r penderfyniadau a’r dylanwadau sy wedi dod â fi i’r lle rydw i heddiw.

"Does yr unman yn well na thir a môr Cymru, a dyna sydd wedi ysbrydoli’r rysetiau yn y gyfrol hon.”

Yn y gyfrol, mae Bryn yn disgrifio’i blentyndod a’r dylanwadau fu arno – gan gynnwys ei Nain a’i chyflenwadau parod o gacennau a Welsh cakes, a’i fentor cyntaf, Alwyn Thomas o fecws Dinbych.

Derbyniodd hyfforddiant gan gogyddion blaenllaw megis y brodyr Roux a Marco Pierre White.

Cyflwyna Bryn ei gyfrol newydd i Alwyn a meddai: “Dros y blynyddoedd ers y cyfnod efo Alwyn Thomas yn y becws yng nghanol Dinbych, dwi wedi gweithio gyda chogyddion sy’n cael eu cyfri ymhlith y gorau drwy’r byd.

"Mae’n bosib iawn eu bod nhw’n haeddu’r statws yna, ond mi ddysgais i fwy gan Alwyn na gan yr un ohonyn nhw.”

Mae Tir a Môr gan Bryn Williams ar gael yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr Gwasg Gomer: www.gomer.co.uk

Dywedodd Elinor Wyn Reynolds ar ran Gwasg Gomer: “Mae’n fraint ac yn bleser cyhoeddi llyfr Cymraeg cyntaf Bryn Williams, ac mae’r cyfuniad o ryseitiau newydd sbon a hunangofiant Bryn yn un unigryw.

"Rydyn ni wedi datblygu’r llyfr dros gyfnod hir yn benodol i roi cip i’r gynulleidfa ar yr hyn sy wedi ysgogi Bryn dros y blynyddoedd, a rhannu ei ddiddordeb angerddol yn safon cynhwysion Cymru, o’r tir, y môr a’r mynydd.

"Mae trafod bwyd a hanes bywyd Cymro amlwg yn ddau o’r elfennau hanfodol i ennyn ein diddordeb ni fel Cymry mewn llyfr – y gorau o’r ddau fyd.”

Bydd y gyfres nesaf o Cegin Bryn yn seiliedig ar ryseitiau Tir a Môr ac yn cael ei darlledu ar S4C ddechrau 2016.

Cynhyrchir y gyfres gan Boom Cymru ar gyfer S4C.

* Tir a Môr, Bryn Williams gyda Catrin Beard, Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, ISBN 9781848518513, £14.99, clawr caled, 136 tudalen

Rhannu |