Llyfrau
Cofnodi camau’r daith drwy fyd Iwan
MAE cyfrol newydd er cof am Iwan Llwyd yn cynnig sawl golwg ar y bardd a fu farw flwyddyn union yn ôl i’r wythnos nesaf, ar Fai 20, 2010.
Trwy lygaid cyd-feirdd a chyfeillion o bob cyfnod yn ei fywyd, a thrwy dynnu ar gynnyrch sioe a ddygwyd ar daith Gymru-gyfan yn ystod hydref a gaeaf y llynedd, mae Iwan, ar Daith yn gasgliad o ysgrifau, caneuon a cherddi am – a gan – y dyn ei hun.
“Bydd cyfrolau eraill – niferus – yn y dyfodol yn sicr o drin a thrafod gwaith Iwan Llwyd a thafoli ei gyfraniad ar droad canrif allweddol yn ein hanes,” meddai Myrddin ap Dafydd, golygydd y gyfrol a’r prifardd a gipiodd y Gadair yr un flwyddyn ag y daeth Iwan yn brifardd y Goron yng Nghwm Rhymni 1990.
Felly, sut mae cofio’r “bersonoliaeth fawr”…
Bangor Lad
“Dwi’n rhyw amau fod Iwan wedi ysu erioed i fod yn ‘Bangor Lad’ go iawn, rhywun fel Eilir Thomas, a roddodd iddo’r enw Iwan ‘Big Ears’ pan gyrhaeddodd Ysgol Gymraeg St Paul yn ddeg oed, neu fel y ‘Bangor Lad’ enwocaf ohonyn nhw i gyd, sef George yn C’mon Midffîld, y rhan a chwaraewyd gan ei frawd Llion.”
Mari Beynon Owen sy’n dweud hynny, cyd-ddisgybl yn Ysgol St Paul ym Mangor ddiwedd y 1960au.
“Ond hogyn o’r wlad oedd Iwan ac yn sicr ein hargraff gyntaf ohono fo oedd rhywun gwladaidd, wedi’i drwytho yn y ‘pethe’ – capel a drama a thipyn o sgolor.”
Dicter y 1970au
“Mae pawb ynom ni yn ffrwyth ein cyfnod…” meddai’r awdur Wiliam Owen Roberts, un o gydoeswyr Iwan Llwyd yn Aberystwyth ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au.
“Motor ei ddicter – ac mae pawb sy’n dal ati i sgwennu tros gyfnod hir angen rhyw ias o ddicter, rhyw dân yn y bol, rhyw boen neu ryw glwy’ – a’r cyfnod yn Aberystwyth borthodd hynny i mewn i enaid Iwan, heb os nac oni bai.”
Mab y Mans
Y Prifardd Sion Aled Owen sy’n cofio rhannu tŷ gydag Iwan Llwyd yn Aberystwyth, ac un noson yn arbennig...
“Un noson ym mis Rhagfyr 1980, dim ond y fi ac Iwan oedd yno, a honno oedd y noson y lladdwyd John Lennon,” meddai. “Iwan oedd yr un a glywodd y newyddion gyntaf os cofiaf yn iawn, ac arweiniodd y digwyddiad at y sgwrs ddwysaf a gefais erioed gydag Iwan...
“Dwi ddim yn cofio llawer o’r union bethau a ddywedwyd y noson honno, dim ond ein bod wedi holi ‘pam’ dro ar ôl tro mewn gwahanol eiriau ac i wahanol gyfeiriadau...
“Dwi’n ei gofio fo’n cyfaddef, ‘Dwi byth yn mynd i’r capal bellach ond mae’n gysur imi bod y capal yno sdi’... Efallai ei fod yn siarad dros lawer o ‘genhedlaeth Lennon’ yn y Gymru Gymraeg y noson honno.”
Teithiwr trafferthus
Y cyfarwyddwr teledu, Michael Bayley Hughes sy’n cofio’r teithio i’r Unol Daleithiau a De America a drowyd yn gyfresi ar gyfer S4C yn y 1990au.
“Y tro diwethaf y gwelais i Iwan oedd ar y stryd ym Mangor rhyw flwyddyn cyn ei farwolaeth,” meddai yn ei ysgrif goffa.
“Soniais wrtho am syniad oedd gen i am daith, ac roedd o’n ysu am gael mynd. Ofer fyddai wedi cynnig y syniad i S4C bryd hynny. Roedd yr hinsawdd wedi newid ac roedd y dyddiau freewheeling ar ben...
“Mae ail-ddarllen y cerddi taith wedi bod yn brofiad trist, yn union fel edrych trwy albwm o hen luniau lle mae profiadau a chwmni da wedi eu fferru am byth. Mae wedi mynd â fi’n ôl ar y trên i Far Rockaway.”
Dim teyrnged
“Ar Fehefin 8fed (2010) talwyd teyrnged yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i Stuart Cable, drymiwr y Stereophonics. ‘Cyfrannodd Stuart Cable at wneud ein gwlad yn cŵl,’ meddai Leanne Wood.
“Ddywedodd neb yn y Cynulliad air am gyfraniad Iwan Llwyd. Mae gennon ni ffordd bell i fynd o hyd i gyflawni delfryd Iwan o fod yn genedl aeddfed yn Ewrop a’r byd.”
Geraint Lovgreen, perfformiwr a dreuliodd dros 30 mlynedd ar lwyfannau gydag Iwan Llwyd, sy’n gofyn y cwestiwn.