Llyfrau
Ceisio datrys un o ddirgelion mwyaf hanes Cymru ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr
Ar Ddydd Owain Glyndŵr, 16 Medi, bydd y Lolfa’n lansio cyfrol arbennig i nodi chwe chanmlwyddiant marwolaeth un o’n harwyr cenedlaethol mwyaf: achlysur cenedlaethol o bwys y tueddodd Cymru i anghofio amdano, yn wahanol i Gymru 1915 pan gafodd pumcanmlwyddiant marw Glyndŵr sylw helaeth a theilwng.
Mae hanes blynyddoedd olaf Owain Glyndŵr yn un o ddirgelion mwyaf hanes Cymru. Yn Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr mae Gruffydd Aled Williams yn archwilio’r traddodiadau ynghylch ymhle y bu Owain farw. Ymhlith y lleoliadau sy’n cael eu trafod y mae rhai a ddatgelwyd yn sgil ymchwil newydd a chyffrous yr awdur mewn llawysgrifau a dogfennau, lleoliadau a all fod yn arwyddocaol ond na chawsant eu trafod mewn print erioed o’r blaen. I ategu’r testun ac i gynorthwyo i ddod â’r lleoliadau posibl a drafodir yn y gyfrol yn fyw, ceir drwyddi draw luniau lliw trawiadol gan y ffotograffydd nodedig Iestyn Hughes.
Yn ôl Gruffydd Aled Williams: “Ni wyddom ymhle y bu Owain farw, ond ceir traddodiadau – y gellir olrhain yr hynaf ohonynt mor bell yn ôl â’r unfed ganrif ar bymtheg – sy’n cysylltu ei farwolaeth ag amryw o fannau yn Swydd Henffordd (lle’r oedd rhai o’i ferched yn byw) ac yng Nghymru.
“Yn y gyfrol archwilir y traddodiadau hyn gan bwyso a mesur yng ngoleuni tystiolaeth hanesyddol pa mor debygol ydynt (gan drafod, yn ogleisiol ar brydiau, rai mannau annhebygol ac anghredadwy a gynigiwyd o bryd i’w gilydd).
“Er bod haneswyr, hynafiaethwyr a rhamantwyr wedi trafod nifer o’r traddodiadau o bryd i’w gilydd ni chafwyd yr un ymdriniaeth estynedig a thrylwyr â’r pwnc cyn hyn.”
Man cychwyn diddordeb Gruffydd Aled Williams yn y pwnc oedd ei fagu yng Nglyndyfrdwy, sef y fro a roddodd ei enw i Owain Glyndŵr. Yn ystod ei yrfa broffesiynol ei brif faes ymchwil fu canu beirdd yr uchelwyr, a chyhoeddodd nifer o ysgrifau ar y farddoniaeth a gyfansoddwyd i Lyndŵr a’i chefndir hanesyddol. Estyniad o’r diddordeb hwn yw’r gyfrol, er mai astudiaeth hanesyddol yn hytrach na llenyddol ydyw yn bennaf.
Bydd Dyddiau olaf Owain Glyndŵr (£9.99, Y Lolfa) yn cael ei lansio nos Fercher, 16 Medi, yn Ystafell Seddon, yr Hen Goleg, Aberystwyth am 7.30p.m., gyda chyflwyniad gweledol gan yr awdur. Mae croeso i bawb.