Llyfrau

RSS Icon
06 Mai 2011

Trosglwyddo’r chwant i’r genhedlaeth nesaf

NID yw dawnsio gwerin yn yr Eisteddfod na meysydd parcio Halfords yn fannau amlwg i ddarganfod talentau rygbi’r dyfodol, ond dyma oedd y llwybrau a gerddodd Dafydd Jones. Cafodd ei hunangofiant, Dal Fy Nhir (Lolfa), a gyd-ysgrifennwyd gan Alun Gibbard, ei lansio yng Nghlwb Rygbi Aberaeron ddydd Sul. Roedd y lansiad yn rhan o Ddiwrnod Teuluol yn y clwb i ddathlu Blwyddyn Dysteb Dafydd Jones.

Siarada Dafydd yn agored yn y llyfr am y gofid meddyliol yn sgil delio â’r anaf tymor hir a ddaeth â’i yrfa i ben. Mae’n sôn am y tro cyntaf am y digwyddiad yn ystod gêm Ewropeaidd pan gafodd garden goch, a’r canlyniad iddo ef, ei gyd-chwaraewyr, ac yn fwy poenus fyth, ei deulu. Mae’n adrodd yn ddi-lol am sawl agwedd ar y gêm yng Nghymru heddiw, gan gynnwys ei hyfforddwyr, ei glwb a’i wlad, a’r siwrnai anhygoel ers dyddiau maes parcio Halfords.

I unrhyw a yrrodd heibio Halfords Caerfyrddin ar ddiwedd y 1990au, byddent wedi bod yn dyst i sawl seren rygbi’r dyfodol yn rhannu siwrnai car i Lanelli, ymhell cyn graddio i gynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol. Dafydd James oedd un o’r rheiny, ynghyd â Wayne Proctor a Mike Phillips, i enwi ond dau. Roedd Dafydd hefyd yn aderyn prin, chwaraewr rhyngwladol a aned yng Ngheredigion, a chanddo wreiddiau dwfn yng nghefn gwlad. Chwaraeodd mewn 201 o gêmau i’r Scarlets, ac ennill 42 o gapiau dros ei wlad rhwng 2002 a 2010.


Ceredigion

Er i Dafydd ddatblygu ei dalent yn fachgen ifanc, diolch i’w fam a’i dad a oedd yn hapus i’w yrru nôl ac ymlaen i sesiynau ymarfer yn Llanelli, mae Dafydd yn feirniadol o’r ffaith bod cyn lleied o dalent Ceredigion wedi cyrraedd llwyfan gwlad, ym maes rygbi a phêl-droed. Y rheswm am hyn, yn ôl Dafydd, yw nid diffyg talent ond y pellter i’r canolfannau ymarfer sydd eu hangen i ddatblygu safonau uwch. Mae awyr iach a gweithgareddau cefn gwlad yn parhau’n ffactorau pwysig ym mywydau pobl ifanc yng Ngheredigion, yn union fel yr oeddent iddo ef. Maent i’w gweld heddiw o hyd gyda’i frwdfrydedd am fridio a rasio ceffylau.

Mae Dafydd yn hel atgofion melys am ysbrydoliaeth arall a gafodd yn grwt ifanc, sef Diane Jones o Lanon a fu’n athrawes arno yn yr ysgol, a gyflwynodd ef i lwyfan yr Eisteddfod. Mae un Eisteddfod yn arbennig yn aros yn y cof, sef yr Eisteddfod Sir yn Aberystwyth. Mae’n dal i gofio pa mor nerfus oedd cyn troedio i’r llwyfan gyda’r bechgyn a merched eraill i ddawnsio gwerin. Edrychodd ar y dorf a sylweddolodd nad oedd wedi gweld cynifer o bobl mewn un lle yn syllu arno. Nid y dawnsio a arhosodd yn ei feddwl, ond yr atgof o wynebu’r fath dorf. Mwynhaodd y profiad, er mor nerfus oedd. Mae nawr yn honni mai’r dawnsio gwerin yn yr ysgol gynradd roddodd yr help llaw angenrheidiol iddo i oresgyn ei nerfau, a’i helpu i ennill dros 40 cap dros Gymru!


‘Cyfraith Warren’

Yn ddiweddarach yn ei yrfa, mae atgofion llai melys ganddo. Mae’n feirniadol iawn o un ffigwr dylanwadol yn ei fywyd, sef hyfforddwr presennol tîm rygbi Cymru, Warren Gatland.

Meddai Dafydd: “Nid yw’r chwaraewyr yn hapus iawn gyda’i arfer o feirniadu’r chwaraewyr yn agored yn y wasg ar ôl pob gêm. Roedd y ffordd y cafodd Ryan Jones ei drin yn erchyll, a rhaid canmol Ryan am ei agwedd aeddfed yn delio â’r sefyllfa. Dylai Warren ddilyn esiampl Steve Hansen, ei gyd-wladwr o Seland Newydd.”

Mae gan Dafydd Jones, a wrthododd nifer o gynigion gan gewri rygbi Ffrengig, Toulouse a Perpignan, yn dilyn ei fuddugoliaeth yn nhîm y Gamp Lawn yn 2005, farn glir ar hynt a helynt chwaraewyr sy’n gadael Cymru er mwyn mynd i chwarae ar y cyfandir.

Ychwanegodd Dafydd: “Rwyf wedi rhoi’r gorau i chwarae i Gymru erbyn hyn, a beth sy’n taro fi yw bod steil Warren yn ‘predictable’. Mae’n amhosibl gweithredu ‘Cyfraith Warren’ yn y tymor hir wrth i chwaraewyr fel Lee Byrne a James Hook symud i Ffrainc. Mae wedi torri’r gyfraith yn barod trwy ddod â chwaraewyr fel Dwayne Peel i mewn i’r tîm. Os yw hyfforddwyr cenedlaethol yn benderfynol bod angen i chwaraewyr chwarae i glybiau Cymreig yn unig, ac os bydd timau rhanbarthol yn defnyddio chwaraewyr tramor, yna bydd y gronfa o chwaraewyr sydd ar gael i Gymru yn lleihau.”


Gavin

Henson

Mae Dafydd yn sôn yn yr hunangofiant am atgofion am ymddygiad Gavin Henson: “Profiad arall oedd chwarae mewn gêmau prawf ar daith gyda Chymru ac fe wnes i hynny yn 2004 wrth fynd i’r Ariannin.

Fe rannes i stafell yn Buenos Aires gydag un o gyn-aelodau clwb y liffts o Halfords Caerfyrddin, sef Barry Davies. Roedd ar y fainc ar gyfer y gêm, gan i Gavin Henson gael ei ddewis yn gefnwr. Sgoriodd Henson bedair gôl gosb ac fe drosodd bedair cais.

“Yn y bar y noson ar ôl y gêm, roedd Gavin damed bach yn rhy llawn o fe ei hunan ac fe drodd at Barry a dweud wrtho nad oedd e’n amlwg yn ddigon da i chwarae fel cefnwr i Gymru gan ei fod e, Henson yn well nag e hyd yn oed mewn safle na fyddai e prin byth yn chwarae ynddo. Dechreuodd wawdio Barry, gan greu tipyn mwy o banter nag a fydd yn arferol rhwng chwaraewyr. Fe aeth yn bersonol a dweud y gwir a doedd Barry ddim am gymryd rhagor ganddo.

“O ganlyniad cododd tamed bach o fracas rhwng y ddau ac mae’n rhaid dweud i Barry ei sortio fe mas yn deidi y noson honno! Dyw hynny ddim yn natur Barry, ond roedd e wedi cael digon.”


Cynnyrch system ieuenctid Llanelli oedd Dafydd, ac aeth ymlaen i chwarae i dimau Datblygol, saith bob ochr a thîm ‘A’ Cymru. Chwaraeodd dros Gymru am y tro cyntaf ar 9 Tachwedd, 2002 yn erbyn Fiji yn Stadiwm y Mileniwm. Enillodd Cymru o 58 i14. Aeth ymlaen i ennill capiau eraill yn erbyn Canada a’r Crysiau Duon. Ar ôl cystadlu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, enillodd gap yn erbyn Y Crysiau Duon a Lloegr, cyn iddo gael ei gynnwys yn sgwad Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2003. Chwaraeodd mewn pum gêm yn ystod y twrnamaint, gan sgorio cais yn erbyn yr Eidal.

Daeth gyrfa Dafydd i ben ar ôl cael clec ar ei ysgwydd yn ystod y gêm ryngwladol rhwng Cymru a Seland Newydd ar 7 Tachwedd, 2009. Digwyddodd yr anaf, a newidiodd ei fywyd am byth, ar ôl cael ei daclo gan Franks, prop Seland Newydd. Parhaodd i chwarae drwy’r gêm mewn poen ofnadwy, ond ar y chwib olaf, darganfuwyd bod ganddo doriad lefel 4, sef y gwaethaf oll. Mae Dafydd yn siarad yn onest ac yn agored yn ei hunangofiant am sut, ar ôl 18 mis, y cafodd un ergyd gymaint o effaith ar ei fywyd, er bod yr anaf wedi gwella.

Ar ôl dwy lawdriniaeth, bu’n rhaid i Dafydd ymddeol o bob math o rygbi ar 4 Ionawr, 2011 ar ôl methu gwella’n llwyr. Bydd Dafydd yn parhau â’i gysylltiad â’r Scarlets am o leia chwe mis wrth ymgymryd â sawl rôl yn y rhanbarth, gan gynnwys cynorthwyo gyda’r Academi, gweithio yn y gymuned i helpu ysbrydoli chwaraewyr ifanc, a datblygu cysylltiadau â noddwyr.

Cyfnod nodedig arall yn ei fywyd oedd chwarae yn yr un tîm a Scott Quinnell yn ei gêm ryngwladol ddiwethaf, yn erbyn Canada. Roedd Scott ar y fainc ond y cwestiwn mawr oedd a fyddai’n chwarae, gan mai hon fyddai ei gêm olaf ar ôl cyhoeddi ei ymddeoliad. Daeth ymlaen i chwarae, ond bu’n rhaid i Dafydd ddod oddi ar y cae er mwyn iddo gymryd ei le. Roedd Dafydd yn hynod siomedig na chafodd gyfle i rannu’r cae gydag ef am y tro olaf.

Roedd Dafydd yn teimlo bod arno ddyled fawr i Scott, ond serch hynny, roedd yn falch iawn o allu rhoi cyfle i Scott chwarae am y tro olaf ar y cae rhyngwladol. Ar ddechrau ei yrfa gyda’r Scarlets, byddai Scott yn siarad â Dafydd, cyn, trwy gydol ac ar ôl pob gêm, wastad yn barod i roi cyngor a chymorth. Yn wir dyma sut y daeth Dafydd i aeddfedu, gwella a throi’n chwaraewr o fri.

Mae Dafydd, neu Dilwyn fel mae’r bois rygbi eraill yn hoff o’i alw, nawr yn brysur ynghlwm wrth ei flwyddyn dysteb. Er ei fod wedi rhoi’i ‘sgidiau rygbi i’r naill ochr, mae’n dal i gredu ei bod hi’n llawer rhy hawdd i gael eich dewis i chwarae i dîm Cymru. Gall cyfres o 4 neu 5 gêm dda nawr rhoi cap cyntaf i chwaraewr ifanc yn ôl Dafydd ac mae’n teimlo bod gormod o chwaraewyr yn cael chwe chap, ac wedyn does neb yn clywed fawr ddim amdanynt .

Mae Dafydd yn edrych ymlaen nawr at fwynhau treulio amser gyda’i blant, Jac (4) a Lili-Ela (3), sy’n byw gydag ef a’i wraig Lynwen, ar fferm fach ym Mhorthyrhyd. Mae’r teulu a’i deulu estynedig, wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo drwy’r cyfnod anodd o ymddeoliad.

Cyn pob gêm, byddai mam Dafydd yn dweud wrtho “Whare fel ‘se whant arnat ti!” Dywedodd hi’r un peth wrtho cyn ei gêm olaf yn erbyn y Crysiau Duon. Mae am drosglwyddo’r un chwant i’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr. Trist o beth yw bod ei yrfa wedi dod i ben cyn i’r chwant ddiflannu.

Rhannu |