Llyfrau
Antur y grŵp roc mwyaf cŵl erioed
I DDATHLU 20 mlynedd yn cynnig adloniant i blant, mae’r amryddawn Martyn Geraint ar daith o gwmpas theatrau Cymru gyda sioe un dyn newydd sbon. ‘Draw dros enfys y cyfnod sylfaen’ yw teitl y sioe hwyliog ond addysgiadol hon sy’n cyfuno ei ddiddordeb mewn adloniant i blant ac addysg, gan iddo gael ei hyfforddi fel athro. Ond mae’r canwr a’r cyflwynydd o Bontypridd hefyd yn awdur llyfrau plant gyda’i ail nofel, Sêr y Nos, newydd ei chyhoeddi gan Wasg Gomer.
Meddai Martyn: “Dwi wastod wedi hoffi gadgets a gizmos ers gwylio rhaglenni fel Batman neu Thunderbirds – felly o’n i am gynnwys ychydig o bethau tebyg yn y llyfr.
“Roeddwn i am ysgrifennu stori antur i blant oedd wedi ei lleoli mewn sawl lle enwog yng Nghymru – a daeth y syniad imi wrth edrych ar Ganolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd a sylwi ar y geiriau ar yr adeilad.
“Meddyliais am guddio bom yna mewn stori antur…daeth y stori imi o fewn 5 munud ond roedd y gwaith o ysgrifennu dipyn yn hirach.”
Antur cyffrous i blant 9-11 oed yw Sêr y Nos, plethir stori dditectif i fyd cŵl grŵp roc Cymraeg gan ein tywys i sawl lle enwog yng Nghymru ar y daith. Y grŵp mwyaf cŵl i’r byd roc Cymraeg ei weld erioed yw Sêr y Nos gyda Belinda Sara, Alffi, Elen a Gwion yn aelodau brwdfrydig iawn. Cael eu denu i fod yn aelodau o’r band drwy hysbyseb wnaethon nhw ac wedi cyfres o glyweliadau, cyfweliadau a chyflawni gwahanol dasgau ar draws y wlad, cafodd y pedwar pwysig eu dewis.
Gyda’u perfformiadau gwefreiddiol a’u gwisgoedd arbennig mae pobl ifanc Cymru wedi gwirioni’n llwyr ar Sêr y Nos. Ond ychydig iawn sy’n gwybod am eu hanturiaethau cyffrous pan na fyddan nhw’n rocio. Diolch i BB, eu rheolwr rhyfeddol, mae aelodau’r grŵp yn defnyddio’r dechnoleg fwyaf modern i erlid dihirod dros Gymru gyfan.
Manylion Taith Martyn Geraint ‘Draw dros enfys y cyfnod sylfaen’:
Blackwood Miners, Y Coed Duon – 9 Mai
Theatr Congress, Cwmbran – 10 a 11 Mai
Theatr Elli, LLanelli – 12 Mai
Memo, Y Barri – 13 Mai
Theatr y Lyric, Caerfyrddin – 16 Mai
Theatr Felinfach – 17 Mai
Galeri, Caernarfon – 23 Mai
Neuadd Les, Ystradgynlais – 26 a 27 Mai