Llyfrau

RSS Icon
06 Mai 2011

Ni welir sgrwtsh yn y gyfrol hon!

SGRWTSH – dyna chi air sy’n cyfleu ei ystyr i’r dim! Gweld blwch llythyrau â’r geiriau ‘Dim Sgrwtsh’ arno wnaeth ysbrydoli’r bardd Eurig Salisbury i fynd ati i lunio’r gerdd ‘Sgrwtsh’ yn ei gasgliad newydd o gerddi o’r un enw.

Ond ni welir sgrwtsh yn y gyfrol liwgar a bywiog hon! Mae Eurig, y meistr geiriau, a’r arlunydd talentog Rhys Bevan Jones, wedi creu cyfrol ddifyr dros ben sy’n siŵr o ddal llygad y darllenydd ifanc. Sgrwtsh! a gyhoeddir gan Wasg Gomer yw casgliad cyntaf o gerddi Eurig ar gyfer plant er iddo gyhoeddi cyfrol i oedolion Llyfr Glas Eurig rai blynyddoedd yn ôl.

Amlygir talent y bardd drwy arddull amrywiol y cerddi o chwarae ar sŵn a lleoliad geiriau i lunio cwpledi cryno a phenillion telynegol eu naws. Daw ffresni’r cerddi’n fyw drwy luniau clyfar y seicolegydd o arlunydd, Rhys Bevan Jones. Wrth eu gwaith bob dydd gellir dweud bod y bardd a’r arlunydd yn treulio oriau mewn meysydd digon dyrys – pell iawn o fyd syml plentyn. Mae Eurig yn yn aelod o dîm Prosiect Guto’r Glyn yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. ‘Psychi-artist’ mae Rhys yn galw ei hun ar ei wefan ac mae e’n gweithio ac ymchwillio mewn seicatryddiaeth.

Rhannu |