Llyfrau

RSS Icon
06 Mai 2011

Cymdogion swnllyd iawn

MAE cymdogion swnllyd yn broblem, does dim dwywaith am hynny. Ond i ellyll sy’n byw dan bont, gall unrhyw sŵn fynd ar ei nerfau. Dyna gefndir Y Tair Gafr Fach Fflwff, llyfr stori-a-llun newydd i blant a gyhoeddir gan Wasg Gomer.

Beth am y geifr swnllyd sy’n clip-clopian bob dydd i fwyta porfa las y ddôl ger y bont? Gan fod busnes gwau llwyddiannus gyda Mrs Gafr roedd hi’n bwysig i’r geifr gael porfa ffres i wneud eu gwlân yn fwy fflwfflyd. Ond un diwrnod gwelir rhybudd wrth Mr Ellyll ar arwydd gerllaw’r bont. ‘Dim clip-clopian ar draws fy mhont i. Bydd clip-clopwyr yn cael eu bwyta!’ Doedd Babi Gafr ddim wedi dysgu darllen eto, felly i ffwrdd â hi a rhoi ei throed ar y bont. Yna’n sydyn neidia Mr Ellyll a’i dychryn gyda’r geiriau ‘Beth fyddai’n siwr o’m helpu i gysgu yw cawl Babi Gafr neu gig gafr mewn cyrri!’

Rhedodd Babi Gafr adref ar ras yn ofnus at Mrs Gafr. Ond mae sŵn traed Gafr Fach Ganolig yn uwch na Babi Gafr a beth fydd yn digwydd iddi hi tybed?

Rhaid darllen y stori liwgar iawn i wybod mwy am ddyfeisgarwch Mrs Gafr yn gwau esgidau fflwfflyd hardd a sut y trodd cymdogion swnllyd Mr Ellyll yn rhai tawel iawn. Mae pawb yn gyfarwydd â stori’r Tair Gafr Fach a’r Ellyll ond mae stori’r Tair Gafr Fach Fflwff dipyn bach yn wahanol ac yn fwrlwm o hwyl a throeon annisgwyl.

Rhannu |