Llyfrau
Ar drywydd stori
MAE cyn aelod o staff Y Cymro wedi cyhoeddi ei hunangofiant. Bu Gwyn Griffiths yn newyddiadurwr ar y papur yn y 1960au pan oedd yn eiddo i Gwmni Papurau Newydd Woodalls yng Nghroesoswallt ac yn y gyfrol gwelir y bu ganddo gysylltiad â nifer o bapurau eraill, rhai ohonyn fel y Cambrian News a’r County Echo, Abergwaun, bellach yn perthyn i’r un grŵp a’r Cymro.
Roedd ei rieni o ardal Tregaron, ei dad o gyffiniau Swyddffynnon, a’i fam o ardal Y Berth. Bu ei dad yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf a wedyn bu’n gwerthu llaeth yn Llundain, priodi merch o’r un ardal oedd hefyd yn gweithio yn Llundain gan ddychwelyd i Gymru ar gychwyn yr Ail Ryfel, pryd y ganed Gwyn.
Cafodd ei fagu yn ardal Y Berth, lle mae’n cofio’n annwyl am Ysgol Gynradd Castell Flemish a chael ei drwytho yn hanes lleol y fro, ac am Gymreictod arbennig Ysgol Uwchradd Tregaron.
Aeth i Goleg Hyfforddi Athrawon Dinas Caerdydd, oedd yn dod yn enwog am ansawdd yr hyfforddiant mewn Addysg Gorfforol. Cafodd ei swydd gyntaf fel Trefnydd yr Urdd yn Sir Benfro lle mae’n sôn am ddod i adnabod nifer o gewri llên Cymru oedd yn byw yn y sir – yn eu plith Waldo, D. J. Williams, Abergwaun, J. J. Evans, Tŷ Ddewi, W. J. Gruffydd (Elerydd) a Jâms Nicholas.
Yno y dechreuodd sgrifennu gan gyfrannu erthyglau Cymraeg i’r County Echo a’r Western Telegraph. Bu ganddo golofn wythnosol yn y Western Telegraph am sawl blwyddyn. Aeth o Sir Benfro i bencadlys yr Urdd yn Aberystwyth lle bu’n Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus y mudiad am flwyddyn cyn ymuno â staff Y Cymro yng Nghroesoswallt.
“Yr oedd yn gyfnod cyffrous,” meddai. “Dyna gychwyn Cymdeithas yr Iaith, Gwynfor Evans yn cipio Caerfyrddin a phibellau oedd yn cario dŵr i Loegr yn cael eu dinistrio.
“Dyma, hefyd, gyfnod o ddatblygu’r diwydiant cynhyrchu recordiau a’r canu pop Cymraeg o ddifri, datblygiad y bu’r Cymro yn rhan bwysig ohono.”
Wedi hynny aeth at BBC Cymru fel Swyddog Hysbysrwydd Cynorthwyol, a maes o law yn Bennaeth y Wasg, a wedi ymadael â staff y Gorfforaeth bu’n aelod o’r tîm sefydlodd y gwasanaeth Cymraeg ar wê, a elwid, bryd hynmny, yn BBC Cymru’r Byd.
Bu’n llenydda gydol ei oes. Sgrifennodd ddwy gyfrol am Lydaw, Crwydro Llydaw a Llydaw – ei llên a’i llwybrau.
Hefyd ddwy gyfrol am y gwerthwr winwns poblogaidd o Lydaw, Y Shonis Olaf a Sioni Winwns – dwy gyfrol a gyhoeddwyd yn Saesneg a’r olaf yn Ffrangeg, hefyd.
Ar sail y cyfrolau am y Sioni Winwns gwahoddwyd ef gan Gyngor Tref Roscoff i sefydlu amgueddfa i’r Sionis – amgueddfa a agorwyd yn 1995.
Yn dilyn hynny cafodd winwns Roscoff statws A.O.C. (Appellation d’Origine Contrôlée) a ddyfernir gan Lywodraeth Ffrainc i fwydydd o ansawdd arbennig ag iddyn nhw arbenigrwydd hanesyddol. Gwnaed Gwyn yn gymrawd cymdeithas tyfwyr a gwerthwyr winwns Roscoff.
Eu gyfrolau diweddaraf oedd ei ddwy gofiant – y naill yn Saesneg a’r llall yn Gymraeg – i’r heddychwr a’r gwladgarwr o Dregaron, Henry Richard. Eto, cafodd y gyfrol Saesneg gryn sylw tu hwnt i Gymru.
Ymysg ei gyfrolau eraill y mae’r gyfres Wês Wês, dwy wedi eu cyd-olygu gyda John Phillips, a dwy wedi eu golygu ganddo fe – cyfrolau â ddisgrifiwyd fel cyfraniad nodedig i lenyddiaeth dafodieithol.
Cyd-olygodd, hefyd, gyfrol o ddramau o’r Llydaweg gyda Rita Williams a chyfrol, ar y cyd gyda Jacquelin Gibson, yn cyflwyno llenyddiaeth Llydaw gyda chyfieithiadau i’r Saesneg. The Turn of the Ermine oedd y gyntaf a gyhoeddwyd gan Francis Boutle, Llundain, mewn cyfres o gyfrolau yn cyflwyno llenyddiaeth o ieithoedd llai eu defnydd i ddarllenwyr Saesneg.
Treuliodd ef a’i wraig, Gwen, y rhan fwyaf o’u bywydau yn ardal Pontypridd. Mae ganddynt bedwar o blant a naw o wyrion ac wyresau.
Cyhoeddir Gwyn Griffiths: Ar Drywydd Stori gan Y Lolfa, pris £9.95. Ceir lansiad i’r gyfrol yn Bedwen Lyfrau, Canolfan Soar, Merthyr Tudful, ddydd Sadwrn, Mai 2, am 2 o’r gloch a wedi hynny yng Nghanolfan Rhiannon, Tregaron, ar Fai 9, am 5 o’r gloch.