Llyfrau
Gwobr Llyfr y Flwyddyn
MAE Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi fod John Lewis, Caerdydd, yn un o brif noddwyr Llyfr y Flwyddyn 2011. Dyfernir gwobr Llyfr y Flwyddyn yn flynyddol i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.
Dywedodd Chris Earnshaw, Rheolwr John Lewis: “Ers agor drysau ein siop gyntaf yng Nghymru, rydym wedi croesawu ymwelwyr ledled y wlad a mae cysylltu â darllenwyr yng Nghymru yn holl bwysig yn hynny. Mae Partneriaeth John Lewis yn falch iawn o weithio gyda Llenyddiaeth Cymru ar y wobr uchel ei bri yma ar gyfer gweithiau llenyddol yng Nghymru.”
Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru prif ddyddiadau gwobr Llyfr y Flwyddyn 2011, sef:
Dydd Mercher, Ebrill 13, Cyhoeddi’r Rhestr Hir ar raglen Wedi 7
Dydd Iau, Mai 19, Cyhoeddi’r Rhestr Fer mewn dau leoliad gwahanol ar yr un pryd, sef Galeri Caernarfon a Bar Espresso John Lewis, Caerdydd
Dydd Iau, Gorffennaf 7, Cyhoeddi’r Enillwyr, Cineworld, Caerdydd
Gwobrwyir £10,000 yr un i awduron y gyfrol orau yn Gymraeg a’r gyfrol orau yn Saesneg.
Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni yw’r awdur a’r academydd Simon Brooks (Cadeirydd), y bardd a’r beirniad llenyddol Gerwyn Wiliams a’r newyddiadurwraig a’r gyflwynwraig Kate Crockett. Y beirniaid ar y panel Saesneg yw Francesca Rhydderch, Deborah Kay Davies a Jon Gower.
Dywedodd Simon Brooks, Cadeirydd y beirniaid Cymraeg: “Tipyn o fraint oedd cael beirniadu Llyfr y Flwyddyn eleni. Roedd y pethau gorau a gafwyd gystal â’r cynnyrch mewn unrhyw iaith, ac yn gyfraniad arhosol i lenyddiaeth Gymraeg.”
Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dangos yr hyn mae Cymru yn medru cyflawni yn ei gelfyddyd ddihafal. Os nad ydych wedi darllen rhai o’r cyfrolau buddugol yn y gorffennol, yna dyma’r flwyddyn i chi ddechrau arni.”
Caiff Llyfr y Flwyddyn 2011 ei weinyddu gan Llenyddiaeth Cymru a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Enillydd y wobr Gymraeg llynedd oedd John Davies am ei lyfr taith Cymru: y 100 lle i’w gweld cyn marw (Y Lolfa).