Llyfrau
Ffrwyth llafur ymchwil i waith hen hen daid
EI hawydd i roi hanes ei hen hen daid ar gof a chadw wnaeth ysgogi Pegi Lloyd-Williams o Flaenau Ffestiniog i fynd ati i ymchwilio ar gyfer y gyfrol Hen Glochyddion Cymru sydd newydd gael ei chyhoeddi gan wasg y Lolfa.
Fel yr eglura’r awdures: “Roedd gen i ddiddordeb erioed yn hanes a bywyd fy hen hen daid, Siôn Ifan, a fu’n gweithio fel clochydd ym Mhenmachno am flynyddoedd maith yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
“Roedd yn dal yn ei swydd yn 1884, ac yntau yn ei wythdegau erbyn hynny.
“Un diwrnod gofynnodd rhywun i mi ar y stryd beth yr arferai clochydd ei wneud.
“Fel llawer i un arall, roeddwn i’n tybio mai dim ond canu’r gloch a thorri’r beddau yr oeddent.”
Dyna pryd yr aeth Pegi ati i ymchwilio ymhellach, a sylweddoli nad oes llawer wedi’i ysgrifennu am yr hen glochyddion hyd yma.
“Doedd dim amdani wedyn,” meddai, “ond mynd ati i chwilota am bob hanesyn a ddeuai i’r golwg.
Gan nad yw’r swydd yn bodoli y dyddiau hyn, roeddwn i’n teimlo bod dyletswydd arnaf i fynd ati i gofnodi rhywfaint o’u hanes cyn i’r cof amdanynt ddiflannu.”
Hen Glochyddion Cymru yw ffrwyth ei gwaith ymchwil mewn hen erthyglau a gweithiau llenyddol, ac yn ogystal â hanesion difyr am yr unigolion a arferai weithio fel clochyddion ar hyd a lled y wlad cawn hefyd ambell i lun o’r eglwysi, y clychau a’r clochyddion dan sylw.
Bydd y gyfrol yn cael ei lansio ym Mlaenau Ffestiniog nos Wener, Ebrill 15, am 7yh yn y Ganolfan Gymdeithasol, yng nghwmni’r awdures Pegi Lloyd-Williams a’r Athro Gwyn Thomas, ac mae croeso cynnes i bawb ddod i glywed mwy am gefndir y gyfrol ddifyr hon.
O Gwm Cynon y daw Pegi Lloyd-Williams yn wreiddiol, ond fe’i magwyd yn bennaf ym Mlaenau Ffestiniog ac yno y mae wedi ymgartrefu, er iddi hefyd deithio i bedwar ban byd.
Cyn ymddeol bu’n gweithio ym maes peirianneg am ddeugain mlynedd a mwy.
Mae’n weithgar iawn yn ei chymuned leol ac wedi gwasanaethu ar sawl corff cyhoeddus, gan gynnwys pwyllgor y Priordy Urdd Sant Ioan yng Nghaerdydd ac fel llywydd Merched y Wawr Sir Feirionnydd.