Llyfrau

RSS Icon
08 Ebrill 2011

Edrych ymhellach na’r golyfgeydd godidog

YR wythnos hon cyhoeddir cyfrol newydd sy’n cyflwyno tirlun Cymru.

Gyda nifer o luniau trawiadol mae Gold Under Bracken yn edrych yn benodol ar yr hyn sydd o dan yr wyneb, sef y pridd, a sut mae’r amrywiaeth o fathau o bridd yn gallu effeithio ar y tirlun, er enghraifft yn achos corsydd, gweundiroedd a thwyni tywod.

Mae’r awdur Richard Hartnup hefyd wedi cynnwys nifer o deithiau cerdded esboniadol ar gyfer y rhai sydd am ddod i adnabod tirwedd Cymru yn well.

Dywedodd yr awdur: “Mae’r gyfrol yn ddathliad o dirlun Cymru a’i effaith ar bobl a’u ffyrdd o fyw. Y nod yw edrych ymhellach na’r golygfeydd prydferth a dadansoddi sylfaen y tirlun sef y cyfuniad o bridd, hinsawdd, daeareg a’r defnydd o’r tir sy’n ei wneud yr hyn ydyw.”

Gweithiodd Richard Hartnup am flynyddoedd i Arolwg Pridd Cymru a Lloegr. Mae bellach wedi ymddeol ac yn tywys grwpiau o bobl o gwmpas ardaloedd arwyddocaol, ac yn ymgynghori ar waith yn ymwneud â phridd yn achlysurol.

Pris y llyfr yw £9.95.

Rhannu |