Llyfrau
Hen Goleg yn adeilad unigryw
UN o adeiladau eiconaidd Cymru yw testun y gyfrol ddiweddaraf yng nghyfres Cip ar Gymru / Wonder Wales.
Mae’r Hen Goleg yn adeilad trawiadol sy’n wynebu Bae Ceredigion. Am yn agos i ganrif a hanner, mae’r ffenomenon pensaernïol hwn wedi swyno ymwelwyr ag Aberystwyth.
Ond beth yw’r adeilad hynod hwn? Beth yw ei ddiben a beth yw ei hanes?…
Fel yr esbonia’r awdur Elgan Philip Davies yn Cip ar Gymru: Yr Hen Goleg, dechreuodd ei fywyd fel tŷ haf i deulu bonheddig. Yna daeth yn westy nodedig, y Castle Hotel, ac fe’i hagorwyd ym mis Mehefin 1865. Ond o fewn blwyddyn roedd cymylau duon panig yn y farchnad ariannol a bu’n rhaid gwerthu’r adeilad.
Yn y pen draw, datblygwyd yr adeilad yn gartref cyntaf i Brifysgol Cymru yn 1872.
I gyn-fyfyrwyr sy’n dychwelyd i Aberystwyth mae gweld yr Hen Goleg “yn dwyn yn ôl lu o atgofion am ddyddiau diofid a chyffrous,” meddai Elgan Philip Davies.
Ac yntau’n llyfrgellydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ers tua 40 mlynedd roedd Elgan Philip Davies yn awdur delfrydol i’r gyfrol hon.
Esbonia Elgan fod yr “Hen Goleg yn adeilad unigryw... ac mae iddo hanes arbennig sy’n ddrych o’n hanes fel cenedl. Dros y blynyddoedd mae unigolion a chymdeithasau wedi ymweld â’r llyfrgell ac am wybod hanes yr adeilad ac roedd hynny yn fy ngorfodi i ddysgu mwy amdano. Wrth wneud hynny roeddwn yn casglu hanesion a lluniau o amryw lefydd.”
“Tua dwy flynedd yn ôl cyhoeddodd y brifysgol y byddai pob adran a oedd yn dal yn yr adeilad yn symud i fyny i Benglais, ac o sylweddoli bod defnydd yr adeilad ar fin newid, teimlais ei bod hi’n amser i roi’r cyfan at ei gilydd mewn cyfrol,” meddai.
“Mae’r adeilad bob amser wedi bod yn un cyhoeddus y mae myfyrwyr, trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd wedi ei werthfawrogi, a phwy bynnag fydd yn ei berchen yn y dyfodol, boed yn Brifysgol Aberystwyth neu’n gwmni preifat, fe ddylai barhau i fod yn adeilad cyhoeddus y gall cenedlaethau’r dyfodol hefyd ryfeddu ato a’i fwynhau,” ychwanega Elgan.
Cip ar Gymru / Wonder Wales: Yr Hen Goleg / The Old College, Gwasg Gomer, £3.99