Llyfrau
Ailddarganfod hanes Cymraes anturus
HOFFTER o deithio’r byd yw’r cysylltiad rhwng awdures un o gyfrolau diweddaraf gwasg y Lolfa a’r ferch a drafodir yn y gyfrol, er bod bron i 150 o flynyddoedd yn eu gwahanu.
Cafodd yr awdures Eirian Jones ei chyfareddu gan hanes Margaret Jones, a oedd yn adnabyddus ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel ‘Y Gymraes o Ganaan’, a buan y sylweddolodd y byddai gan Gymry’r unfed ganrif ar hugain ddiddordeb mewn clywed hanes y ferch eithriadol hon, oedd ymhell o flaen ei hamser o ran ei hawydd i deithio ar ei phen ei hun a’i safbwyntiau eangfrydig.
Fel yr eglura Eirian: “Wrth chwilio am rywbeth arall, darganfyddais stori hudolus Margaret Jones o Rosllannerchrugog yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
“Fel finnau, roedd y wraig hon yn hoff iawn o deithio ac ysgrifennu. Dros gan mlynedd a hanner yn ôl, bu’n byw ym Mharis, Jerwsalem a Moroco, cyn teithio ar draws yr Unol Daleithiau ac yna priodi gŵr hynod o gyfoethog a gorffen ei dyddiau ger Brisbane yn Awstralia.
“Cyhoeddodd ddau lyfr, un am Ganaan a’r llall am Foroco. Roedd yn enwog iawn yng Nghymru yn ei dydd, ond mae’n ymddangos i’r ugeinfed ganrif ei hanghofio yn gyfan gwbl.”
Yn ôl Dr E Wyn James o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sydd wedi cyfrannu rhagair manwl i’r gyfrol, mae’n “agor inni, yn llythrennol, gyfandiroedd o wybodaeth am hynt a helynt y wraig anturus hon – gwraig o argyhoeddiadau cryfion, a siaradai’n ddi-flewyn-ar-dafod am bawb a phopeth o’i chwmpas; yn wir, yn rhy ddi-flewyn-ar-dafod ar adegau!”
Mae hanes ‘Y Gymraes o Ganaan’ hefyd yn cael sylw yn yr arddangosfa ‘Byd Bach – Teithio yng Nghymru a Thu Hwnt’ sydd i’w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar hyn o bryd.
Ddydd Mercher, 30 Mawrth, am 1.15yp, bydd Eirian Jones yn sgwrsio am ‘Y Gymraes o Ganaan’ yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol yn rhan o’r gyfres o ddarlithoedd sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa nodedig hon, a bydd copïau o’r gyfrol ar gael i’w prynu yn siop y Llyfrgell.
Mae’r awdures, fel ei thestun, yn deithwraig o fri. Cafodd ei magu ar y Mynydd Bach yng Ngheredigion, ond mae wedi teithio’r byd, gan ymweld â dros ddeugain o wledydd eisoes.
Wedi gyrfa fel athrawes yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys cyfnod fel pennaeth ysgol, mae bellach yn gweithio fel golygydd llyfrau Saesneg.
Mae hefyd yn ddyfarnwraig tenis ryngwladol, a bu’n dyfarnu yn Wimbledon am y 13 mlynedd ddiwethaf.
Bydd y gyfrol yn cael ei lansio’n ffurfiol yn Llyfrgell Rhosllannerchrugog, pentref genedigol Margaret Jones, brynhawn Iau, 14 Ebrill, am 2yp.