Llyfrau

RSS Icon
01 Ebrill 2011

Ail-lansio cynllun Nofel y Mis

MAE’R Cyngor Llyfrau wedi ail-lansio cynlluniau Nofel y Mis a Book of the Month yn siopau llyfrau Cymru.

Sefydlwyd y cynlluniau i roi hwb i werthiant nofelau Cymraeg a llyfrau Saesneg newydd o Gymru. Dewisir nofel Gymraeg a llyfr Saesneg gwahanol bob mis ac anfonir cyflenwad parod i’r siopau sy’n rhan o’r cynllun.

I ddathlu’r cynllun a’r deunydd hyrwyddo ar eu newydd wedd, mae’r Cyngor Llyfrau yn falch o gyhoeddi mai nofel newydd Gwen Parrott, sef Hen Blant Bach, yw Nofel y Mis ar gyfer Ebrill.

Dyma drydedd nofel Gwen Parrott, sy’n dod yn wreiddiol o sir Benfro ac sydd erbyn hyn yn gweithio fel cyfieithydd ym Mryste. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Cwlwm Gwaed, yn 1998 (Y Lolfa) a’i hail nofel, Gwyn eu Byd, yn 2010 gan Gomer. Mae hi hefyd yn storïo, yn sgriptio ac yn cynhyrchu’r gyfres Ponty (Radio Cymru) yn achlysurol.

Nofel dditectif am gyfres o lofruddiaethau puteiniaid yw Hen Blant Bach. Mae Erful, y prif gymeriad, yn byw bywyd unig yn yr hen dŷ lle magwyd ef, ar goll ar ôl marwolaeth ei fam ac yn fwndel o ofnau a swildod. Yr unig atgofion hapus sydd ganddo yw’r rhai o’i gyfnod yn yr ysgol pan oedd yn teimlo’i fod yn rhywun arbennig.

Felly, pan gaiff un o’i gyd-ddisgyblion ei llofruddio – y gyntaf o nifer o buteiniaid y dref, teimla ei bod yn ddyletswydd arno i ymchwilio i’r mater. Dim ond ei gof anhygoel sydd ganddo yn arf a golyga hyn fod yn rhaid iddo gamu allan o’i rigol ac ymdopi â’r byd tu allan i furiau ei gartref. Ond ar y daith, mae ganddo ddirgelwch mwy i’w ddatrys na marwolaethau ei hen ffrindiau. Os yw am oroesi, rhaid i Erful fynd i’r afael â’i orffennol ei hun.

Dyma nofel hynod o afaelgar sy’n siŵr o apelio at ddarllenwyr sy’n mwynhau nofelau datrys a dirgelwch.

Cyhoeddir Hen Blant Bach gan Wasg Gomer ac mae copïau ar gael yn awr yn eich siop lyfrau leol neu ar gwales.com. Pris: £8.99

Llyfr Saesneg y mis ar gyfer Ebrill yw Ten Pound Pom gan Niall Griffiths (Parthian). Copïau ar werth yn awr. Pris: £8.99

Rhannu |