Llyfrau

RSS Icon
05 Hydref 2012

Sut mae llyfr yn cael ei greu?

YDYCH chi erioed wedi meddwl sut mae llyfr yn cael ei greu? Gyda chynifer yn holi‘r cwestiwn hwn i’r awdur ac arlunydd Rob Lewis o Nantmel, Powys, fe aeth ati i lunio llyfr stori-a-llun i esbonio’r broses cam wrth gam.

Ffrwyth ei waith yw O Glawr i Glawr ac fe gyhoeddir y llyfr hwn a’r fersiwn Saesneg, Cover to Cover, i gyd-fynd â phen-blwydd Gwasg Gomer yn 120 oed fis Medi 2012. Bu’r awdur a Sioned Lleinau, addasydd y llyfr i’r Gymraeg a golygydd llyfrau plant y wasg yn lansio’r llyfr yng nghwmni plant Ysgol Gynradd Llandysul yr wythnos ddiwethaf.

O droi tudalennau’r llyfr fe welir cyfuniad hyfryd o arlunwaith nodedig Rob Lewis gyda’i anifeiliaid annwyl a ffotograffau o bobl y wasg wrth eu gwaith. Cyflwynir y darllenydd i’r dechnoleg a’r eirfa briodol wrth drin a thrafod llyfrau fel golygydd, bwrdd stori, dylunydd a phroflenni ac mae sylwadau a chwestiynau hwyliog y cymeriadau yn ychwanegu at ddifyrrwch y testun.

Cyn argraffu bydd platiau metel yn cael eu creu a gwelir llun John Llewelyn Jones o Landysul yn gwirio’r platiau cyn argraffu.

Mae un plât ar gyfer pob un o bedwar lliw y wasg argraffu – Cyan, Magenta, Melyn a Du ac wrth argraffu un lliw inc ar ben y llall, mae’r holl liwiau yn cael eu creu.

Mae Vince Lloyd wedi gweithio yng ngwasg Gomer ers dros ddeugain mlynedd a gwelir ei lun wrth ochr y peiriant plygu.

Fel sawl un arall o staff Gomer, fe ddechreuodd Vince weithio i’r cwmni yn syth o’r ysgol ac mae Gwasg Gomer yn dal yn gyflogwr pwysig yn ardal wledig Dyffryn Teifi gan gyflogi tua hanner cant o weithwyr llawn a rhan amser.

Busnes teuluol yw Gwasg Gomer o hyd gyda rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni heddiw, Jonathan Lewis, yn ôr-ŵyr i J. D. Lewis a sefydlodd Gwasg Gomer yn 1892.

Ar dudalen olaf y llyfr ceir llun o Jonathan, ei frawd Rod a’u tad John Lewis yn sefyll ger yr hen wasg argraffu ac fe ryfeddwn ni heddiw at y datblygiad enfawr a fu yn y diwydiant dros y blynyddoedd.

Yn ystod misoedd yr haf 2012, gosodwyd gwasg newydd sbon a pheiriannau newydd ar safle Gomer gan fuddsoddi eto i ddyfodol y cwmni.

 

Rhannu |